Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



Sgrifennodd Kevin Donnelly:
> > Dwi'n cytuno am y syniad o greu CD blasydd, ond beth am un i Windows
> > hefyd?  [...] Basai CD o feddalwedd rydd Gymraeg yn ffordd da o
> > gyflwyno rhai o'n gwaith iddyn nhw. [...]
> 
> Rhywbeth tebyg i TheOpenCD (http://theopencd.sunsite.dk/) neu GNUWin
> (http://gnuwin.epfl.ch/en/index.html)?  Y prif broblem yw adnoddau -
> oes gennym ddigon o "gyrff" i wneud amrediad o CDs a'u profi nhw?  Ac
> rhaid i fi ddweud nid oes gennyf fi yn bersonol y brwdfrydedd i
> weithio drwy "hynodrwyddau" Windows - mae'n mor "degawd-ddiwethaf", ac
> mae pethau gwell ar gael. Yn y diwedd hefyd, mae unrhyw fersiwn o
> Linux rwan cystal â Win98.

Dwi'n cytuno a roedd gen i amheuaethau am weithio ar OpenOffice.org i
Windows.  Ond dwi 'di dod i gredu, dim ots pa mor dda mae'r feddalwedd,
fydd llawer o unigolion a busnesau ddim yn newid ei system weithredu tan
bod nhw'n prynu cyfrifiadur newydd, oherwydd diffyg hyder efo technoleg,
neu inertia ("if it ain't broke ...")

Dwi eisiau gweld pobl yn defnyddio meddalwedd rydd Gymraeg ar system
weithredu rydd Gymraeg, ond dwi'n meddwl gallai CD i Windows gyrraedd
pobl na fasai CD Knoppix yn y tymor byr.  Dw i'n barod i trefnu /
gweithio arno fo.  Druan mod i'n casau datblygu ar Windows - ond mae'n
ffordd o brofi fy ymroddiad i'r iaith :-)  Fasai unrhywun arall eisiau
gweithio arno fo hefyd?

Hwyl,
-- 
David

intY has scanned this email for all known viruses (www.inty.com)


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]