Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



Sgrifennais i:
> Sgrifennodd Kevin Donnelly:
> > Bwrdd yr Iaith [...] and MS have been co-operating on providing Welsh
> > interfaces to WinXP and MSOffice, to be released some time in 2004.
> > [...] MS itself has financed the translation.
[...]
> Dwi ddim yn siwr bod hi'n "newyddion da" i'r Iaith.  Os bydd pobl yn
> cael eu cloi i mewn i MS Office / Windows gan fformatiau caeedig [...]

Ar y llaw arall, o'n i'n edrych arno fo yn rhy negyddol.  Mae'r cwmni
meddalwedd mwyaf yn y byd wedi penderfynu defnyddio'r iaith am resymau
masnachol yn unig.  Rhaid bod y cystadleuaeth yn ffactor pwysig yn y
penderfyniad yma - doedd dim fersiynau Cymraeg rhwng 1985 a 2003.  Felly
dan ni i gyd yn gallu bod yn falch iawn - yn tua ddwy flynedd, dan ni
wedi trawsffurfio'r marchnad o un lle nad oes fawr o ddarpariaeth i'r
Gymraeg o gwbl i un lle mae darpariaeth i'r Gymraeg yn anghenrhaid i
gwmni sydd eisiau cystadlu.

Dwi'n cytuno am y syniad o greu CD blasydd, ond beth am un i Windows
hefyd?  Rhaid fod cant a mil o mewnosodiadau Windows 98 yng Nghymru sy'n
gweithio'n iawn, a dydy pobl ddim yn hoff o newidiadau di-angen.  Basai
CD o feddalwedd rydd Gymraeg yn ffordd da o gyflwyno rhai o'n gwaith
iddyn nhw.  Meddyliwch amdano fel "smokers' toothpaste" - dydy Windows
98 Saesneg ddim yn beth da ond gan nad ydy llawr o bobl eisiau newid,
pam lai creu CD iddyn nhw?

Hwyl,
David
-- 
$_=".--- ..- ... -  .- -. --- - .... . .-.  .--. . .-. .-..  .... .- -.-.".
" -.- . .-.\n";s!([.-]+) ?!$_=$1;y/-./10/;$_=chr(-1+ord pack"B*","01".0 x(5
-length)."1$_");y/DWYKAQMOCVLSFENU\\IGBHPJXZ[~nfb`_ow{}/a-z0-9/;$_!ge;print


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]