Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



Helo,

Ysgrifennodd David Chan:

>Sgrifennais i:
>
>>Sgrifennodd Kevin Donnelly:
>>
>>>Bwrdd yr Iaith [...] and MS have been co-operating on providing Welsh
>>>interfaces to WinXP and MSOffice, to be released some time in 2004.
>>>[...] MS itself has financed the translation.
>
>[...]
>
>>Dwi ddim yn siwr bod hi'n "newyddion da" i'r Iaith.  Os bydd pobl yn
>>cael eu cloi i mewn i MS Office / Windows gan fformatiau caeedig [...]
>
>
>Ar y llaw arall, o'n i'n edrych arno fo yn rhy negyddol.  Mae'r cwmni
>meddalwedd mwyaf yn y byd wedi penderfynu defnyddio'r iaith am resymau
>masnachol yn unig.  Rhaid bod y cystadleuaeth yn ffactor pwysig yn y
>penderfyniad yma - doedd dim fersiynau Cymraeg rhwng 1985 a 2003.  Felly
>dan ni i gyd yn gallu bod yn falch iawn - yn tua ddwy flynedd, dan ni
>wedi trawsffurfio'r marchnad o un lle nad oes fawr o ddarpariaeth i'r
>Gymraeg o gwbl i un lle mae darpariaeth i'r Gymraeg yn anghenrhaid i
>gwmni sydd eisiau cystadlu.
>
Dwi meddwl bod nhw wedi sylwi o'r byd cod agored a rhai gwmniau cod caeedig arloesol fel Opera a Google bod pobl eisiau eu meddalwedd yn eu iaith eu hunain a bod y marchnad non-MS ar ei blaen hi ac yn symud ymlaen. Fel soniais i o'r blaen, mae Linux Gnome/KDE bell ar ei blaen hi i gymharu ac XP gan eu bod nhw'n caniatau'r defnyddiwr i ddewis o'r sgrin mewngofnodi pa iaith mae nhw eisio eu sesiwn. Amhosibl yn XP felly dim ddwyieithrwydd. Fel bopeth arall MS, chwarae 'catch up' yw hyn.

Ella mae'r ffaith bod sector bywiog cod agored Cymraeg wedi gorfodi MS i dewis talu am datblygu'r fersiwn Cymraeg eu hunain (fel penderfynon nhw blwyddyn yn ol gyda Norwyeg Bokmal - iaith llai na'r Gymraeg oherwydd pethau fel skolelinux.no ) neu bod gan BYI a'r Cynulliad jiyst ddim o'r arian beth bynnag.

Be mae Microsoft wedi methu sylwi, a be sy'n groes i'w model caeedig o weithredu, yw os mae'r 'barriers' yn isel, mae defnyddwyr/cwsmeriaid bodlon wirfoddoli i gyfieithu eu meddalwedd i'w hieithoedd eu hunain e.e Opera a Google, sy'n lleihau costau cyfieithu yn sylweddol ac sy'n ehangu eu farchnad i'r eithaf gan bod mwy o cyfeithiadau ar gael.

>
>Dwi'n cytuno am y syniad o greu CD blasydd, ond beth am un i Windows
>hefyd?  Rhaid fod cant a mil o mewnosodiadau Windows 98 yng Nghymru sy'n
>gweithio'n iawn, a dydy pobl ddim yn hoff o newidiadau di-angen.  
>
Ond gyda CD ala Knoppix Cymraeg (a ffon cof) bydd na ddim newidiadau ar eu cyrifiaduron, jiyst penbwrdd sy'n mymryn bach yn wahanol ac yn Gymraeg (-ella mae hyna'n dipyn o newid iddyn nhw). Wrth gwrs bydd modd rhoid gwybodaeth am pethau ar y CD fel OpenOffice a Mozilla sy'n rhedeg hefyd o dan Windows (ella rhoi'r rhaglenni gosod Windows arno?)

Dewi

 




________________________________________________________________
Sent via the WebMail system at gwelywiwr.org


 
                   

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]