Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



On Wednesday 14 January 2004 8:25 am, David Chan wrote:
> Ar y llaw arall, o'n i'n edrych arno fo yn rhy negyddol.  Mae'r cwmni
> meddalwedd mwyaf yn y byd wedi penderfynu defnyddio'r iaith am resymau
> masnachol yn unig.  Rhaid bod y cystadleuaeth yn ffactor pwysig yn y
> penderfyniad yma - doedd dim fersiynau Cymraeg rhwng 1985 a 2003.  Felly
> dan ni i gyd yn gallu bod yn falch iawn - yn tua ddwy flynedd, dan ni
> wedi trawsffurfio'r marchnad o un lle nad oes fawr o ddarpariaeth i'r
> Gymraeg o gwbl i un lle mae darpariaeth i'r Gymraeg yn anghenrhaid i
> gwmni sydd eisiau cystadlu.

Dwi'n cydweld - dwi'n gweithio ar stori ynglyn �yn, ond mae angen tipyn o 
ymchwil yn gyntaf ...

> Dwi'n cytuno am y syniad o greu CD blasydd, ond beth am un i Windows
> hefyd?  Rhaid fod cant a mil o mewnosodiadau Windows 98 yng Nghymru sy'n
> gweithio'n iawn, a dydy pobl ddim yn hoff o newidiadau di-angen.  Basai
> CD o feddalwedd rydd Gymraeg yn ffordd da o gyflwyno rhai o'n gwaith
> iddyn nhw.  Meddyliwch amdano fel "smokers' toothpaste" - dydy Windows
> 98 Saesneg ddim yn beth da ond gan nad ydy llawr o bobl eisiau newid,
> pam lai creu CD iddyn nhw?

Rhywbeth tebyg i TheOpenCD (http://theopencd.sunsite.dk/) neu GNUWin 
(http://gnuwin.epfl.ch/en/index.html)?  Y prif broblem yw adnoddau - oes 
gennym ddigon o "gyrff" i wneud amrediad o CDs a'u profi nhw?  Ac rhaid i fi 
ddweud nid oes gennyf fi yn bersonol y brwdfrydedd i weithio drwy 
"hynodrwyddau" Windows - mae'n mor "degawd-ddiwethaf", ac mae pethau gwell ar 
gael.  Yn y diwedd hefyd, mae unrhyw fersiwn o Linux rwan cystal �in98.  
Felly dwi'n meddwl mae'n well trio annog pobl i "take the plunge" a newid 
drosodd i gysawd gweithredu rhydd yr un pryd �hymwysiadau rhydd.  

Dyna pam rydw i wedi bod yn edrych ar Lindows, sy'n creu argraff da iawn, i 
fod yn onest - maen nhw hyd yn oed wedi ail-enwi'r Ganolfan Reoli KDE yn 
"Control Panel".  I rywun sydd wedi defnyddio dosbarthiad Linux go iawn, 
mae'n "denau" - does dim llawer o feddalwedd arno yn y dechrau.  Ond ni 
fuasai hen ddefnyddiwr Windows yn poeni am hynny, gan fod dim ond golygydd 
testun, chwaraewr CD, porydd, a dibynnydd ebost sy'n dod �indows.  Ac mae'n 
edrych yn eitha bert.  Yr unig broblem efallai yw faint mor gyflym bydd hi'n 
rhedeg ar beiriant o'r era yno - mae Win98 yn rhesymol gyflym, ond efallai 
buasai Linux yn teimlo'n arafach (mae Moz ac OOo yn cymryd gryn dipyn o amser 
i gychwyn, ac maen tueddu defnyddio llawer o adnoddau.)

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]