Re: [gnome-cy] [Fwd: GNU/Linux awareness Day]



'Sgrifennodd Dafydd Harries:

> > Penbwrdd sydd wedi cael ei ddefnyddio ers o leia 1985, felly
> > "Amgylchedd Penbwrdd" amdani?
> 
> Ydi e? Doeddwn i ddim yn ymbydodol o hynny. A oes manylion gen ti?

Wnaeth hwn cael ei godi ym mis Mawrth dwi'n credu?

Roedd 'cyhoeddi penbwrdd' yn cael ei ddefnyddio yn weddol gynnar.

A mae pobl (yn naturiol ac yn anffodus falle) wedi defnyddio penbwrdd
am y 'desktop' modern, yn enwedig mewn ysgolion e.e
http://www.bbc.co.uk/wales/clic-clic/glossary.shtml

Mae'n werth nodi wrth gwrs fod pobl wedi troedio ar hyd ein llwybr ni
o'r blaen. Mae gen i gopi o llipa-ddisg fan hyn o 1996 - 'Wyneb
Cymraeg' ar gyfer RISC OS 3.x (prosiect cyfieithu OS wedi ei ariannu
gan y llywodraeth!. anodd credu).

Mae yna eirfa bach handi yn y cefn: pen-desg yw'r term ar gyfer
desktop a mae'n eitha diddorol darllen trwy'r gweddill. Mae yna lawer
o fathiadau bach da ynddo sydd wedi mynd ar goll.

-- 
Dafydd Tomos                                <URL:http://www.fydd.org/d/>

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]