Re: [gnome-cy] [Fwd: GNU/Linux awareness Day]



Dyma'r cais cyntaf. Ymddiheuriadau am wallau sillafu a 
gramadeg, ond dwi'n meddwl 'wi 'di dal nhw i gyd!

:-)

Marcus

O.N. Buaswn i 'di licio dod, on dwi yn Lwcsembwrg y p8nos 
hynny!
--------------------------------------------------------------


Rhyddhad Y Wasg - Fersiwn Technegol.
------------------------------------

Mae'r South Wales Linux Users Group (www.swlug.org) ynghyd â 
Chyngor Sir Caerdydd yn cynnal Diwrnodau Arwybod GNU/Linux ar 
Ddydd Gwener yr 11eg a Dydd Sadwrn y 12fed o Orffennaf yn 
Neuadd y Sir, Caerdydd.

System Gweithredu Rhydd (cyferied ato'n aml fel Côd-Agored) 
yw GNU/Linux, a dechreuwyd gan Linus Torvalds ym Medi 1991. 
Ers y diwrnod cyntaf, mae nifer defnywddwyr Linux wedi bod yn 
cynyddu, ac mae GNU/Linux heddiw yn ddewis arall boblogaidd i 
blatfform Microsoft Windows.

Dydd Arwybod Linux yw'r cyfle i fusnesau a'r cyhoedd i 
gyfarwyddo'u hunain â GNU/Linux ac i siarad â phroffesiynwyr 
cyfrifiaduron profiadol am paham mae GNU/Linux yn ddewis mor 
dda.

Yn y digwyddiad, ceir arddangosfeydd o blatfformiau amrywiol 
yn rhedeg Linux am nifer o dasgiau gwahanol fel Amlgyfrwng, 
Diogelwch Rhyngrwyd, gwaith sywddfa ac addysg. Bydd gan y 
prosiect Gnome-cy fersiwn newydd o'r bwrdd gwaith GNOME 
wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, sy'n creu amgylchedd bwrdd 
gwaith cyfrifiaduro modern ar gael i'r Gymry Cymraeg am y tro 
cyntaf.

Mae GNU/Linux ar gael yn gyfreithlon am ddim i'w lawrlwytho 
o'r rhyngrwyd, ac felly nid yn unig y gallem rhoi i ffwrdd 
dosbarthiadau* (e.e. Red Hat, Debian neu Suse) o GNU/Linux ar 
CD, ond rydym ni'n cynnig i osod rhai o'r dosbarthiadau ar 
gyfrifiaduron mae'r cyhoedd yn eu dod gyda nhw. Mae hwn yn 
meddwl y gellir unrhywun sy'n dod â'i gyfrifiadur cartref ei 
hun adael gyda datrysiad llawn o GNU/Linux sy'n gweithio, heb 
unrhyw gost.

Nodir hefyd ni fydd ynrhyw aelod o'r South Wales Linux User 
Group na Chyngor Sir Caerdydd yn gyfrifol am ynrhyw niwed neu 
colled data a all ddigwydd i unrhyw system cyfrifiadur a 
chyrchwyd i'r digwyddiad. 

Caiff hyd i dermau ac amodau llawn yn ("insert T&C web page 
here").

Am mwy o wybodaeth, gweler:

SWLUG - http://www.swlug.org/
Gwybodaeth Dydd Arwybod Linux - 
http://cardiffschools.net/lad.htm
Linux - http://www.linux.org/
GNU - http://www.gnu.org/
Gnome - http://www.gnome.org/
Red Hat - http://www.redhat.com/
Debian - http://www.debian.org/
Suse - http://www.suse.de/

Neu cysyllter â:

Philip Downer - ymholiadau SWLUG ar 0787 947 0969
Gareth Bowker - ymholiadau SWLUG a Gnome-cy ar 0796 831 2721

* Cedwir yr hawl i godi costau cyfryngau e.e. pris CD os oes 
galw uchel


Rhyddhad Y Wasg - Fersiwn Annhechnegol.
----------------------------------------

Mae'r South Wales Linux Users Group (www.swlug.org) ynghyd â 
Chyngor Sir Caerdydd yn cynnal Diwrnodau Arwybod GNU/Linux ar 
Ddydd Gwener yr 11eg a Dydd Sadwrn y 12fed o Orffennaf yn 
Neuadd y Sir, Caerdydd.

Nôd y digwyddiad yma yw i godi lefel arwybod GNU/Linux y tu 
fewn i Dde Cymru, a'r lles y gellir ddod nid yn unig i 
fusnesau bach a mawr, ond hefyd i'r cwsmer cyffredinol.

"The aim of this event is to raise the awareness level of 
GNU/Linux 
within South Wales and the benefits that it can bring not 
only to small
and large businesses but also to the General consumer. "

Un o prif elwon i'r rhai o fewn ardal De Cymru yw'r ffaith 
bod aelodau'r SWLUG wedi dechrau'r prosiect Gnome-cy, a'i nôd 
o gyfieithu'r amgylchedd bwrdd gwaith Gnome i'r Gymraeg, yn 
darparu yr hyn y credwn i fod yr amgylchedd cyfriaduro modern 
gyntaf i'r Gymry cymraeg. Bydd Gnome-cy yn arddangos eu 
fersiwn diweddaraf yn Nydd Arwybod Linux.

Mae GNU/Linux ar gael yn gyfreithlon am ddim i'w lawrlwytho 
o'r rhyngrwyd, ac felly nid yn unig y gallem rhoi i ffwrdd 
dosbarthiadau* (e.e. Red Hat, Debian neu Suse) o GNU/Linux ar 
CD, ond rydym ni'n cynnig i osod rhai o'r dosbarthiadau ar 
gyfrifiaduron mae'r cyhoedd yn eu dod gyda nhw. Mae hwn yn 
meddwl y gellir unrhywun sy'n dod â'i gyfrifiadur cartref ei 
hun adael gyda datrysiad llawn o GNU/Linux sy'n gweithio, heb 
unrhyw gost.

Caiff hyd i dermau ac amodau llawn yn ("insert T&C web page 
here").

Mae'r South Wales Linux Group yn cynnal cyfarfodydd cyson yng 
Nghaerdydd ac Abertawe i ddarparu cefnogaeth i unrhywun sydd 
eisiau dechrau â Linux yn ardal De Cymru.

Am mwy o wybodaeth, gweler:

SWLUG - http://www.swlug.org/
Gwybodaeth Dydd Arwybod Linux - 
http://cardiffschools.net/lad.htm
Linux - http://www.linux.org/
GNU - http://www.gnu.org/
Gnome - http://www.gnome.org/
Red Hat - http://www.redhat.com/
Debian - http://www.debian.org/
Suse - http://www.suse.de/

Neu cysyllter â:

Philip Downer - ymholiadau SWLUG ar 0787 947 0969
Gareth Bowker - ymholiadau SWLUG a Gnome-cy ar 0796 831 2721

* Cedwir yr hawl i godi costau cyfryngau e.e. pris CD os oes 
galw uchel

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]