Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



On Monday 12 January 2004 5:25 pm, David Chan wrote:
> > Good news for Welsh but, as I noted earlier, it means that one
> > selling point for free software is no longer unique.
>
> Dwi ddim yn siwr bod hi'n "newyddion da" i'r Iaith.  Os bydd pobl yn
> cael eu cloi i mewn i MS Office / Windows gan fformatiau caeedig, ac os
> na fydd Microsoft yn ryddhau fersiynau newydd yn Gymraeg wedyn, gallai
> pobl orfod defnyddio meddalwedd Saesneg Microsoft yn y dyfodol.  Felly
> gallai bod pwysau mawr ar Bwrdd yr Iaith i ariannu'r fersiyn Cymraeg
> nesaf.

Dwi'n gweld eich pwynt.  Ond bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl bod hyn yn cam 
ymlaen, a yn y sector cyhoeddus ni fyddant yn meddwl yn bellach ymlaen na 
tair blynedd (cymharer yr addroddiadau diweddar ynglyn � NHS a BECTA).  
Mae'r berygl o gael eich cloi i mewn yn bell o'i feddwl ar hyn o bryd (ond 
efallai mae problemau Newham yn ryw fath o rybudd).  

Gyda llaw, nes i anghofio ddiolch i chi ynglyn � prisiau crynoddisgiau - 
bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol pan dyn ni'n dechrau gwneud CD "blasydd" yn y 
gwanwyn.  (Dwisho hi fod yn barod, wedi'i phrofi ac ati, erbyn yr 
Eisteddfod.)  Ond er bod y pris bob-CD yn rhad, bydd angen gael rhyw 
ffynhonnell arian i feddwl am wario tua �3,000.  Mae hyn yn pwyntio eto i'r 
angen sefydlu mudiad o ryw fath.

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]