Re: [gnome-cy] termau



Kevin Donnelly wrote:
 
> Hmm.  Beth yw'r dewis?  Aros tan i'r Gynulliad roi cymhorthdal i ryw gorff
> wneud y cyfieithu?  Dwi'm yn ei weld hi'n digwydd, a pwy fuasai'n talu i
> ddiweddaru'r peth?  Dweud wrth pawb sydd efo diddordeb ym meddalwedd rydd i
> aros am ddwy neu dair blynedd tan i ryw bwyllgor ddod i fyny efo testun
> canonaidd?

Byswn i'n cynnig yr ateb eitha amlwg o ddisgwyl tan bo cymuned o
bobl yn defnyddio'r meddalwedd, wedyn cymeryd cynigion a syniadau
ganddyn nhw - efallai cael ryw fforwm pleidleisio ar gyfer casglu
barn pobl ar gwahanol dermau. Mae trafodaeth ar rai o'r termau
wedi digwydd fan hyn yn y Llyfrgell yn barod, a rydym wrthi'n
cynnal sesiynau cyflwyno Mozilla i'n staff (230 wedi eu gwneud,
ryw 30 dal i fynd). Mae'r rhan helaeth o'r staff hyn yn gwneud
eu gwaith yn y Gymraeg, a rydym yn crybwyll yn y sesiynnau bod
Canolfan Bedwyr yn chwilio am adborth ar y iaith a'r termau.

Mae'r Llyfrgell wedi bod yn defnyddio meddalwedd dwyieithog ers
cyn cof (hoffech chi weld ein VT100s gydag w^ ag y^ o 1988?
Bargen am £4k yr un!!), a rwy'n teimlo mai drwy gyflwyno'r
meddalwedd i ddefnyddwyr 'go iawn' y cawn yr adborth mwyaf
defnyddiol.

-- 
Illtud Daniel                                 illtud daniel llgc org uk
Uwch Ddadansoddwr Systemau                       Senior Systems Analyst
Llyfrgell Genedlaethol Cymru                  National Library of Wales
Yn siarad drosof fy hun, nid LlGC   -  Speaking personally, not for NLW

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]