Re: [gnome-cy] termau



> > OS sydd yn defnyddio'r llinell orchymyn. Mae gan 'clipboard'
> > ddiffiniad eitha penodol yng nghyfrifadureg sut bynnag mae KDE neu
> > Gnome yn penderfynu delio gyda fe. Mae Klipper yn storio'i gynnwys yn
> > barhaol mewn ffeil a mae hynny'n dangos fod ei bwrpas yn wahanol i
> > iawn i 'system clipboard'.
> 
> Wel, mae "gludfwrdd" yn dal i neud synnwyr i mi :-)

Gludfwrdd oedd peth oedden ni'n defnyddio yn ein gwersi Celf er mwyn
creu mosaic neu montage. h.y. torri allan darnau o rhyw ddeunydd er
mwyn ei gludo i darn o gardfwrdd. Mae e'n weithred eitha 'parhaol'.

> Rhaid i mi angytuno.  Beth am y blwch sy'n dod i fyny wrth gadw ffeil?  Y 
> disgrifiad am hynny yn Saesneg yw "dialog box" neu "File Save dialog", ond 
> mae 'n llawer mwy ynddo na "Ie/Na/Ddim yn Gwybod" - gallwch newid y llwybr 
> i'r ffeil, newid math y ffeil, ac ati.

Ie, dyna beth o'n i'n feddwl gyda blwch 'rhydd', er mwyn rhoi llwybr
i'r ffeil (does dim llawer o ots yw rhywun yn teipio'r llwybr fewn neu
chwilotydd ffeiliau i ganfod y llwybr cywir). A enghraifft oedd Ie/Na
o beth sy'n cael ei ddangos. Mewn rhai llefydd, fe ddangosir
'Save/Exit' neu 'End Program/Cancel' - mae'n dibynnu ar pwrpas y
ffenest. Ond yn y pendraw, mae rhaid rhoi ateb penodol i bob ffenest
ddeialog... wneith e ddim diflannu tan fod un o'r atebion yn cael ei
roi.

Nid sgwrs yw hynny, ond un neu fwy o gwestiynau lle mae rhaid rhoi
ateb sy'n boddhau rhyw fformat arbennig a mae'r bocs deialog yn
diflannu ar ol hynny.

> Mae'r enghraifft yma yn wirion, efallai, ond mae'r pwynt yn ddilys.  YFMO, 
> bydd rhaid i bobl wneud rhyw fath o ymdrech i newid i feddalwedd rydd a 
> meddalwedd Gymraeg, felly dwi'm yn meddwl y byddent yn poeni gormod am eirfa 
> newydd, yn arbennig o achos bydd y teimlad rhyfedd yn para am 'mond mis.  Mae 
> Owain wedi bod yn defnyddio "wynebfath" yn lle "ffont", a nes i ffindio hi'n 
> ryfedd i ddechrau, ond dwi'n dechrau ymarfer iddi rwan.

Mae wynebfath yn eitha da, ond mae e dal yn gyfieithiad slafaidd o
'typeface'. Dwi'n credu fod llawer yn dibynnu ar darddiad y gair
Saesneg. Mae rhai termau yn amlwg yn gyfuniad o eiriau
saesneg/lladin/groeg (inter-face/type-face) a mae'n bosib ail-greu y
gair o'i hanfod gyda geiriau Cymraeg. Gyda termau arall fel dialog,
mae'n bosib cymreigio y gair (a mae 'deialog' wedi ei ddefnyddio ers
canrifoedd cyn heddiwr).

> Mae mwy o broblem, fel mater o ffaith, efo geiriau sy'n anaml yn Saesneg ei 
> hun, e.e. "resolution".  Mae pobl wedi defnyddio "cydraniad" am hyn, ond 
> faint mor aml yw hyn yn Gymraeg?  Bydd rhaid i bobl ei ddysgu, neu bydd rhaid 
> i ni ddefnyddio "resoliwsin" neu aralleiriad fel "faint mor fawr fydd eich 
> sgrîn yn ymddangos".  Nid yw hynny yn gwneud synnwyr i mi.

Mae rhaid i bobl 'gyffredin' ei ddysgu ond mae hynny'n anorfod ta
beth. Mae pobl sydd wedi derbyn addusg mathemateg/ffiseg yn y Gymraeg
yn gyfarwydd a'r termau felly dyw e ddim yn gwneud synnwyr i ail-greu
y termau o'r cychwyun a chreu Cymraeg 'dumbed-down'.

> Mae problem arall efo defnyddio geiriau mewn cyd-destun gwahanol.  E.e mae 
> Rhoslyn wedi defnyddio "sain" am "audio", a dwi 'di dilyn hynny gan fod audio 
> yn ddilyniant o sain ac yn gwneud synnwyr i mi, ond dwi'n gwybod bod rhai 
> sydd wedi edrych dros y ffeiliau wedi dweud bod yn well ganddynt "awdio".  
> 
> Mae'n fater o farn, wir, ond fel siaradwr ail-iaith dwi'n tueddu dilyn be mae 
> siaradwyr iaith-gyntaf yn defnyddio, efo hoffter am ddefnyddio'r gair sydd 
> efo gwraidd Gymraeg os mae dewis rhwng hynny ac un 
> Saesneg/Ffrangeg/Lladin/Groeg.

Mae'n eitha amlwg mai sain yw'r gair cywir. Dyw y rhan fwyaf o
siaradwyr iaith gyntaf (yn cynnwys fi) yn tueddu tuag at fratiaith a
ddim yn gwybod dim byd am ramadeg y Gymraeg nac am y cyfoeth o eiriau
sydd yn bodoli ond wedi ei anghofio. Dwi'n credu fod e'n bwysig gwrando
ar yr academyddion iaith ond hefyd i fod yn pragmatig a codi llais os
ydw i'n meddwl fod penderfyniadau od yn cael ei wneud yn enw creu
'Cymraeg pur'.

> Mae bocs, blwch, deialog ac ymgom i gyd yn y GyA.  Rydych chi'n awgrymu bod 
> rhaid defnyddio be mae pobl yn ei ddefnyddio'n barod (h.y peidio â bod yn 
> gyfarwyddol),

Dim bob tro, ond mewn tua 5% o achosion mae termau wedi ei safoni yn
barod mewn cyhoeddiadau ac ar lafar a dwi'n ei weld yn gam yn ol i
drio ei ail-gyfieithu. Dyma beth sydd yn digwydd pan fod 'pawb' yn
dechrau cyfieithu prosiect fel Gnome. Dyw 'pawb' ddim yn arbennigwr
iaith, does gan 'pawb' ddim y cymwysterau na'r profiad i gyfiethu'n
gall a felly rydyn ni'n cynhyrchu lobsgows o wahanol dermau a neb yn
siwr pa un sy'n well.

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]