Re: [gnome-cy] termau



On Tuesday 09 September 2003 10:18, Illtud Daniel wrote:
> Byswn i'n cynnig yr ateb eitha amlwg o ddisgwyl tan bo cymuned o
> bobl yn defnyddio'r meddalwedd, wedyn cymeryd cynigion a syniadau
> ganddyn nhw - efallai cael ryw fforwm pleidleisio ar gyfer casglu
> barn pobl ar gwahanol dermau. 

Syniad da.  Y pwynt oeddwn i'n ceisio ei wneud yw bod hyn yn sefyllfa "iâr ac 
wy" - mae'n amhosib, yn y byd go iawn, gofyn am adborth tan i chi gael y 
cymwysiadau i dynnu'r adborth.  Rhaid i ni ddechrau yn rhywle, a symud o 
fan'na ("y gorau yw gelyn y da"), a defnyddio proses ailadroddol i wella a 
safoni'r trosiad iaith.  Mae'n eitha bosib y bydd llawer o'r geiriau yn cael 
ei newid.

Wrth gwrs, bydd fforwm yn codi'r cwestiwn o bwy sy'n penderfynu ar ba adborth 
i dderbyn!  Iâr ac wy eto!


-- 

Pob hwyl

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]