Re: [gnome-cy] termau



On Monday 08 September 2003 14:37, Dafydd Tomos wrote:
> Nid sgwrs yw hynny, ond un neu fwy o gwestiynau lle mae rhaid rhoi
> ateb sy'n boddhau rhyw fformat arbennig a mae'r bocs deialog yn
> diflannu ar ol hynny.

Mae hyn yn hollti gwalltiau - buasai'n bosib dweud felly bod "dialog" ddim yn 
iawn yn Saesneg chwaith :-)

> Dim bob tro, ond mewn tua 5% o achosion mae termau wedi ei safoni yn
> barod mewn cyhoeddiadau ac ar lafar a dwi'n ei weld yn gam yn ol i
> drio ei ail-gyfieithu. Dyma beth sydd yn digwydd pan fod 'pawb' yn
> dechrau cyfieithu prosiect fel Gnome. Dyw 'pawb' ddim yn arbennigwr
> iaith, does gan 'pawb' ddim y cymwysterau na'r profiad i gyfiethu'n
> gall a felly rydyn ni'n cynhyrchu lobsgows o wahanol dermau a neb yn
> siwr pa un sy'n well.

Hmm.  Beth yw'r dewis?  Aros tan i'r Gynulliad roi cymhorthdal i ryw gorff 
wneud y cyfieithu?  Dwi'm yn ei weld hi'n digwydd, a pwy fuasai'n talu i 
ddiweddaru'r peth?  Dweud wrth pawb sydd efo diddordeb ym meddalwedd rydd i 
aros am ddwy neu dair blynedd tan i ryw bwyllgor ddod i fyny efo testun 
canonaidd?  Swydd di-derfyn - mae'r geirfa yn newid yn rhy gyflym hyd yn oed 
yn Saesneg.  Yr unig ffordd resymol yw DIY, a ni golyga hynny bydd hi'n 
amhosib gwneud newidiadau wedyn - ond ydy'r holl amgylchedd meddalwedd rydd 
yn "lobsgows" o safbwynt y bobl "synhwyrol" yn y diwydiant meddalwedd?  

I ryw raddau, mae cyfnewid rhwng perswadio pobl i ddefnyddio Gymraeg yn 
lletach, a gosod amodau ar yr eirfa.  Dydw i ddim yn awgrymu bod angen 
lobsgows, ond bod pobl gwahanol efo syniadau gwahanol ar beth yw'r gair 
"iawn".  Os dwi'n gofyn i bobl am air, dwi'n cael nifer o farnau - mae'n 
ffaith.

Dywedodd Elfed wrthyf, wrth ddechrau KDE ym 1999, bod y tîm Llydaweg wedi 
dweud wrtho bod y peth pwysicaf oedd creu geirfa, ac ar ôl i chi wneud hynny, 
wedyn cewch ddechrau ar y cyfieithu.  Hmm.  Ni chynhelir Llydaweg (neu 
Gwyddeleg, lle oedd y Llydawyr yn cael y syniad) yn KDE eto ....

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]