Re: [gnome-cy] termau



On Monday 08 September 2003 11:26, Dafydd Tomos wrote:
> Mae klipper fwy tebyg i history yn bash ac wrth gwrs mae'n fwy addas i
> OS sydd yn defnyddio'r llinell orchymyn. Mae gan 'clipboard'
> ddiffiniad eitha penodol yng nghyfrifadureg sut bynnag mae KDE neu
> Gnome yn penderfynu delio gyda fe. Mae Klipper yn storio'i gynnwys yn
> barhaol mewn ffeil a mae hynny'n dangos fod ei bwrpas yn wahanol i
> iawn i 'system clipboard'.

Wel, mae "gludfwrdd" yn dal i neud synnwyr i mi :-)

> Ie, ond nid sgwrs yw hynny ond 'questionnaire' lle mae naill ai flwch
> Ie/Na/Ddim yn Gwybod neu flwch 'rhydd'. Mi fyddai holiadur yn derm yr
> un mor addas ac ymgom/deialog.

Rhaid i mi angytuno.  Beth am y blwch sy'n dod i fyny wrth gadw ffeil?  Y 
disgrifiad am hynny yn Saesneg yw "dialog box" neu "File Save dialog", ond 
mae 'n llawer mwy ynddo na "Ie/Na/Ddim yn Gwybod" - gallwch newid y llwybr 
i'r ffeil, newid math y ffeil, ac ati.  Pe allai'r cyfrifiadur siarad, 
buasai'n gofyn "Lle ydych eisiau cadw'r ffeil? Yma? O, rydych eisiau ei roi o 
yn fan'na!  Iawn.  Ydy'r math ffeil rhagosod yn iawn? Nac ydy?  Be fuasech 
chi'n hoffi yn lle?"  I mi, mae hynny'n rhyw fath o sgwrs (heb swn, ac wrth 
gwrs heb gwestiynau fel sut oeddech chi'n mwynhau'r ffilm neithiwr!).

> Mae'n dibynnu os ti'n credu mai pwrpas cyfieithu meddalwedd yw
> ail-ddiffinio holl syniadau Cyfrifiadureg trwy gyfrwng y Gymraeg neu
> cyfieithu system sy'n bodoli'n barod er mwyn cynyddu'r defnydd a
> cynnig *dewis*. Os oedden i'n ail-enwi yr holl ddarnau o fewn
> cyfrifiadureg gan ddechrau o 'first principles' fasen i yn
> ail-ystyried llawer o'r termau cyffredin.

Fel y ddywedes i, mae'n anodd, ac efallai yn y diwedd mae'n dibynnu ar eich 
barn.  Lle i dynnu'r llinell.  Beth am "rhyngwyneb" - mae'n gwneud synnwyr i 
mi, mae'n amlwg be di o, a dwi'n siwr eich bod chi yn hapus efo fo.  Ond 
naeth un o'm meibion chwerthin pan glywodd fo'r term, a dweud ei fod o'n 
wirion o achos 'mond cyfieithiad o'r Saesneg oedd o.  (Roedd y llall yn falch 
o glywed gair Cymraeg am "interface".)  Felly, beth i'w wneud?  Dweud, "mae 
pawb sy'n defnyddio cyfrifiadur yn Saesneg yn defnyddio'r gair "interface" yn 
barod, felly mae'n well defnyddio rhywbeth fel "interfâs" amdano yn Gymraeg?"  

Mae'r enghraifft yma yn wirion, efallai, ond mae'r pwynt yn ddilys.  YFMO, 
bydd rhaid i bobl wneud rhyw fath o ymdrech i newid i feddalwedd rydd a 
meddalwedd Gymraeg, felly dwi'm yn meddwl y byddent yn poeni gormod am eirfa 
newydd, yn arbennig o achos bydd y teimlad rhyfedd yn para am 'mond mis.  Mae 
Owain wedi bod yn defnyddio "wynebfath" yn lle "ffont", a nes i ffindio hi'n 
ryfedd i ddechrau, ond dwi'n dechrau ymarfer iddi rwan.

Mae mwy o broblem, fel mater o ffaith, efo geiriau sy'n anaml yn Saesneg ei 
hun, e.e. "resolution".  Mae pobl wedi defnyddio "cydraniad" am hyn, ond 
faint mor aml yw hyn yn Gymraeg?  Bydd rhaid i bobl ei ddysgu, neu bydd rhaid 
i ni ddefnyddio "resoliwsin" neu aralleiriad fel "faint mor fawr fydd eich 
sgrîn yn ymddangos".  Nid yw hynny yn gwneud synnwyr i mi.

Mae problem arall efo defnyddio geiriau mewn cyd-destun gwahanol.  E.e mae 
Rhoslyn wedi defnyddio "sain" am "audio", a dwi 'di dilyn hynny gan fod audio 
yn ddilyniant o sain ac yn gwneud synnwyr i mi, ond dwi'n gwybod bod rhai 
sydd wedi edrych dros y ffeiliau wedi dweud bod yn well ganddynt "awdio".  

Mae'n fater o farn, wir, ond fel siaradwr ail-iaith dwi'n tueddu dilyn be mae 
siaradwyr iaith-gyntaf yn defnyddio, efo hoffter am ddefnyddio'r gair sydd 
efo gwraidd Gymraeg os mae dewis rhwng hynny ac un 
Saesneg/Ffrangeg/Lladin/Groeg.

> Fasen i'n cytuno os oedd hi'n 1997 a fod ni'n gallu bathu geiriau
> Cymraeg cyn i'r Saesneg dod yn fwy cyfarwydd (a dyna beth oeddwn i'n
> gwneud yn 1997 dweud y gwir). Ond mae hi'n 2003 a mae nifer o bobl
> wedi safoni y termau Cymraeg yma yn barod drwy ei defnydd bob bydd yn
> ogystal a drwy broses fwy ffurfiol, academaidd. Mae rhai o'r
> cyfieithiadau hynny yn anghywir a mae angen ei newid (sydd bron yn
> amhosib). Ond mae rhan fwyaf o'r cyfieithiadau arall yn hollol
> dderbyniol.

Hmm.  Dwi'm yn gweld pam mae'n amhosib newid y ffeiliau .po os bydd angen.  Y 
cwestiwn yw - oes angen?  Mae'n anodd iawn bod yn gyfarwyddol am iaith - wrth 
gwrs, mae geiriau yn y Termiadur a'r GyA, ond mae llawer o leeway ar sut i 
roi nhw at eu gilydd :-)  E.e, am "dialog box" dylen ni ddefnyddio:
- bocs deialog
- blwch deialog
- blwch ymgom
- bocs ymgom?
Mae bocs, blwch, deialog ac ymgom i gyd yn y GyA.  Rydych chi'n awgrymu bod 
rhaid defnyddio be mae pobl yn ei ddefnyddio'n barod (h.y peidio â bod yn 
gyfarwyddol), ond mae hynny ei hun yn gyfarwyddol, o achos mae'n dweud bod 
rhaid i'r eirfa mewn unrhyw le lle mae Saesneg wedi cyrraedd yn gyntaf gael 
ei seilio ar Saesneg yn lle ar Gymraeg.  Beth yw pwynt y Termiadur felly?

Dwi'n caru harddwch a phŵer Saesneg, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bosib 
"retro-fit" Cymraeg.  Yn y diwedd y defnyddwyr fydd yn dewis beth i'w 
ddefnyddio, dim ni.  Bydd digon o amser poeni am hynny pan mae gennym fwy o 
ddefnyddwyr .....

-- 

Pob hwyl

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]