Re: [gnome-cy] Datganiad i'r wasg ar y wici



Ar Faw 21, ysgrifennodd Dewi Jones:

> Beth am rhoid ddatganiad i'r wasg ;) i roid cefndir i'r gwaith,
> sôn ble bydd Gnome 2.6 Cymraeg ar gael o hyn ymlaen (gan feddwl
> am yr oll distros yn ogystal a Cymrux), beth fydd y manteision i
> gyd i ddefnyddwyr - e.e. ddwyieithrwydd ayb...

Wel, rydym wrthi'n sgrifennu datganiad i'r wasg ar hyn o bryd, 
ar wici CymruarLinux. Y bwriad yw ei ryddhau rywbryd wythnos nesaf.
Dyma lle 'rydyn ni ar hyn o bryd - rwy' wedi mwngio'r URL fel na
fydd Google et al yn medru ei gysylltu cyn pryd:

www dot cymruarlinux dot org dot uk/wici/index.cgi?24Mawrth2004

Rydyn ni wedi ceisio sgrifennu rhywbeth digon cyffredinol, heb
gyfeirio at GNOME a KDE yn benodol yn y datganiad ei hun (ceir
cyfeiriadau atynt yn y 'nodiadau i olygyddion' islaw'r datganiad).
Rydym hefyd wedi ceisio osgoi cyfeiriadau at, e.e. AbiWord, Mozilla/
Gwe-lywiwr, KWord, GnomeMeeting ayyb, gan ddefnyddio yn hytrach
ddisgrifiadau o'r hyn gall y pecynnau hynny wneud.

Pe fedrai pobl daro golwg ar y datganiad a'i olygu os ydynt am
wneud hynny, mi fyddem yn ddiolchgar iawn. Mae lle ynddo ar gyfer
dyfyniadau oddi wrth Kevin Donnelly (ynghylch Cymrix/Brodor) ac
Alan Cox (ynghylch y prosiect penbwrdd Cymraeg yn gyffredinol).
Rydym hefyd yn disgwyl dyfyniad oddi wrth Fwrdd yr Iaith, os yw
hynny'n iawn!

Diolch i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda'r datganiad hyd yn hyn
mewn unrhyw fodd - Kevin, Dewi ac eraill.

Hwyl
Rhys
-- 
http://www.wibsite.com/wiblog/backburner/   http://www.sucs.org/~rhys/

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]