Re: [gnome-cy] Datganiad i'r wasg ar y wici



On Friday 26 March 2004 11:46 am, Rhys Jones wrote:
> Wel, rydym wrthi'n sgrifennu datganiad i'r wasg ar hyn o bryd,
> ar wici CymruarLinux. Y bwriad yw ei ryddhau rywbryd wythnos nesaf.

Dwi'n meddwl eich bod chi wedi gwneud swydd da iawn o hyn - mae'n darllen yn 
dda, fel dywedodd David.

> Pe fedrai pobl daro golwg ar y datganiad a'i olygu os ydynt am
> wneud hynny, mi fyddem yn ddiolchgar iawn. Mae lle ynddo ar gyfer
> dyfyniadau oddi wrth Kevin Donnelly (ynghylch Cymrix/Brodor) ac
> Alan Cox (ynghylch y prosiect penbwrdd Cymraeg yn gyffredinol).

Diolch, ond dwi misho fy enw yn y prif destun - bydd pobl yn blino ohonof!  Yn 
lle, dwi'di gofyn wrth un o'r prif gyfrannwyr i 3.2.1 i roi paragraff ynglyn 
a'i agwedd tuag at y cywaith.  YFMO, buasai'n syniad da cael rhywbeth tebyg 
gan rhywun ar yr ochr GNOME.

Yn y testun ei hun, dwi'm yn siwr ynglyn � cyfeiriad i cynadledda fideo.  
Golygu fideo dych chi'n son amdano?  Os felly, dwi'm yn meddwl, yn bersonol, 
bod yr offer yn Linux yn ddigon dda i gyhoedduso eto - byddem yn or-werthu 
beth sydd yno.  Mae Kino yn dda, ond mae'r safon yn ganolig; mae MainActor yn 
beta a buggy (ers blwyddyn...); mae Cinelerra yn disaster zone; ac mae'n 
ddiwrnodau cynnar efo KDEnlive.  Dwi ddim wedi ceisio JahShaka eto.  Swn i'n 
anghofio am fideo am ddwy flynedd eto ... :-)

Gawn ni roi Zulu yn lle Catalan, fel rhywbeth mwy ecsotig (mae hi ar gael yn 
KDE).  Dan ni'n ystyried rhoi Zulu ar y CD Cymrux, fel j� A cyn i chi 
feddwl fy mod i'n annheg i siaradwyr Zulu, dwi'n siarad tipyn o Zulu fy hun 
:-)

Dan ni'n gobeithio cael fersiwn go dda o Gymrux erbyn yr Eisteddfod, ond dan 
ni ddim yn siwr eto am y stondin - mae'n tua �700 o bunnau :-(  Dwi'n weddol 
obeithiol y byddem yn gallu benthyg lle gan rhywun.

> Rydym hefyd yn disgwyl dyfyniad oddi wrth Fwrdd yr Iaith, os yw
> hynny'n iawn!

Pwy a wyr???

> Diolch i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda'r datganiad hyd yn hyn
> mewn unrhyw fodd - Kevin, Dewi ac eraill.

Chi sy wedi gwneud y gwaith anodd o sgwennu'r testun, felly da iawn chi!

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]