Re: [gnome-cy] parti!



Llongyfarchiadau i chi gyd!! Dwi'n edrych ymlaen at gael ei ddefnyddio!

Beth am rhoid ddatganiad i'r wasg ;) i roid cefndir i'r gwaith, sôn ble bydd Gnome 2.6 Cymraeg ar gael o hyn ymlaen (gan feddwl am yr oll distros yn ogystal a Cymrux), beth fydd y manteision i gyd i ddefnyddwyr - e.e. ddwyieithrwydd ayb, ac i efallai codi'r pwynt bod chi wedi curo Microsoft Windows i'r 'pass' (-i ddyfynnu 'The Register' ar strategaeth MS gyda Windows Cymraeg - "Microsoft's move is a head-them-off-at-the pass response to the actions of an informal 25-strong group of Welsh-language Linux enthusiasts"). Fyny i chi, ond da chi yn haeddu pob clod a kudoz yn y cyfryngau am hyn a mae'n newyddion sylweddol i ddatblygiad Cymraeg yn y byd TG.

Beth bynnag, oes modd ddathlu rhywbryd eto gyda ni'r Gogs rhywle yn y canol mewn cyfarfod fel soniodd Rhoslyn a Kevin? :

http://pengwyn.linux.org.uk/pipermail/gnome-cy/2004-February/000488.html

Hwyl,
Dewi.




Ysgrifennodd Dafydd Harries:

Heia pawb.

Wel, os nad ydych chi wedi clywed eto, mae'r gwaith 2.6 drosodd!
Llongyfarchiadau a diolch i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn!

<http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/index.html>
-- ond yw e'n hyfryd? :)

Mae 18061 neges GNOME 2.6 wedi eu cyfieithu. 1,400 neges yn fwy na GNOME
2.4, a sawl mil llinell wedi newid rhwng y ddau, dwi'n meddwl.

Ddydd Mercher, caiff GNOME 2.6 ei rhyddhau, a fe fydd pobl yn dathlu
dros y byd: <http://www.eurielec.etsit.upm.es/~fherrera/gnome26party/>.

Rydw i'n awgrymu ein bod ni'n cael parti bychan nos Fercher: un ai yn
Abertawe neu Gaerdydd. Yr unig le rydw i'n gallu meddwl amdani yw'r
"Shot in the Dark" - lle neis iawn yng Nghaerdydd a ddylai fod yn
gyfarwydd i'r rheiny sy'n mynychu SWLUG.

Beth mae bobl yn meddwl?


-



_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]