Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



Sgrifennodd Kevin Donnelly:
> On Wednesday 14 January 2004 11:21 am, David Chan wrote:
> > Dyna syniad diddorol - un CD sy'n Knoppix Cymraeg a CD mewnosod Windows
> > hefyd.  Fasai digon o le i wneud hynny?  Beth sydd ar gael ar gyfer
> > Windows?
> 
> Nid yw hyn yn amhosib o safbwynt lle - mae CD cywasgedig Knoppix tua
> 680Mb, ond gellir waredu llawer o'r feddalwedd sy ddim wir yn ymwneud
> efo defnyddiwr cartref.  Y cwestiwn mwy anodd yw'r cysawd ffeil - ar
> ôl i'r ddisg ymgychwyn, buasai rhaid copio'r ffeiliau Windows i ddisg
> galed y defnyddiwr.  Nid yw hyn yn anodd, ond bydd angen ysgrifennu
> cyfarwyddiadau manwl ar gyfer ei wneud - cofiwch bydd hi'n drychineb
> os bydd rhywbeth yn distrywio ffeiliau'r defnyddiwr (un o'r prif
> resymau ar gyfer CD-byw).  Efo VFAT bydd hyn yn iawn, ond efo NTFS
> mae'n fwy anodd - ydy'n hollol saff eto i ysgrifennu i'r cysawd ffeil
> yna?  Ffordd arall buasai rhoi cysodau ar gyfer Lin a Win ar un ddisg,
> efo dewislen i ddewis pa un i gychwyn.  Ond buasai hynny angen rhywun
> i ysgrifennu sgriptiau, a hyd yn oed mwy o brofi.

Ah, o'n i'n meddwl am CD sy'n gweithio fel hyn:

1) Os ti'n bootio oddiwrth y CD, ti'n cael Knoppix Cymraeg.

2) Os ti'n bootio Windows, ac yna rhoi'r CD i mewn, ti'n cael rhaglen
Windows auto-run sy'n rhedeg y rhaglen fewnosod OpenOffice.org (neu
Mozilla ac ati).

> Hefyd, gall ffwndroni pobl: LinKDE, LinGNOME, Win - gallwch colli
> canolbwynt.  Ond os mae'n bosibl i'w wneud yn dechnegol, efallai mae'n
> werth ceisio. 

Mae hynny yn bwynt pwysig.  Rhaid i ni fod a+ neges clir, syml sy'n
ddealladwy i rywun sy ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng Windows a
Microsoft Office - fel roeddet ti'n dweud am Golwgyddion a'u ymenyddiau
4 cilobeit, cwpl o fisoedd yn ol, os cofia i'n iawn :-)

Hwyl,
-- 
David

intY has scanned this email for all known viruses (www.inty.com)


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]