Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



On Wednesday 14 January 2004 11:21 am, David Chan wrote:
> Dyna syniad diddorol - un CD sy'n Knoppix Cymraeg a CD mewnosod Windows
> hefyd.  Fasai digon o le i wneud hynny?  Beth sydd ar gael ar gyfer
> Windows?

Nid yw hyn yn amhosib o safbwynt lle - mae CD cywasgedig Knoppix tua 680Mb, 
ond gellir waredu llawer o'r feddalwedd sy ddim wir yn ymwneud efo defnyddiwr 
cartref.  Y cwestiwn mwy anodd yw'r cysawd ffeil - ar �'r ddisg ymgychwyn, 
buasai rhaid copio'r ffeiliau Windows i ddisg galed y defnyddiwr.  Nid yw hyn 
yn anodd, ond bydd angen ysgrifennu cyfarwyddiadau manwl ar gyfer ei wneud - 
cofiwch bydd hi'n drychineb os bydd rhywbeth yn distrywio ffeiliau'r 
defnyddiwr (un o'r prif resymau ar gyfer CD-byw).  Efo VFAT bydd hyn yn iawn, 
ond efo NTFS mae'n fwy anodd - ydy'n hollol saff eto i ysgrifennu i'r cysawd 
ffeil yna?  Ffordd arall buasai rhoi cysodau ar gyfer Lin a Win ar un ddisg, 
efo dewislen i ddewis pa un i gychwyn.  Ond buasai hynny angen rhywun i 
ysgrifennu sgriptiau, a hyd yn oed mwy o brofi.  Hefyd, gall ffwndroni pobl: 
LinKDE, LinGNOME, Win - gallwch colli canolbwynt.  Ond os mae'n bosibl i'w 
wneud yn dechnegol, efallai mae'n werth ceisio. 

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]