Re: [gnome-cy] Windows in Welsh, but not at public expense



Pwynt da iawn David.

Dwi meddwl mai'r CD blasydd (ala Knoppix(?)) yw un o'r blaenoriaethau mwya i meddalwedd rhydd Gymraeg ar y moment. Mae'r meddalwedd Cymraeg Linux ganddo ni - OpenOffice, Gnome a Mozilla ond mae angen ffordd hawdd i bobl cael eu gweld cyn i Microsoft dwyn y sioe fel petai.  Beth bynnag, bydd rhaid llwyddo i ddatblygu'r CD yn gyntaf cyn dechrau gofyn am arian (?)

Es i neithiwr i weld sut mae'r LiveCD PCLinux (LiveCD o Manrdake 9.2) (http://www.pclinuxonline.com/pclos/pclinuxos.html) yn dod yn ei blaen.  O'i rhestr e-bost, y diweddaraf yw ei bod yn gweithio ar y broses gosod y CD ar disgiau caled a bod problemau gyda ffyn cof. (memory sticks)

Be sy'n diddorol yn y brosiect hwn yw nid yn unig mai un o'r cyfranwyr mwyaf Mandrake sy'n gweithio arno (felly ella mae rhai ficsys i polishio rhai pethau'n well na'r Mandrake 9.2 swyddogol yn gallu mynd i mewn) ond mae'n ceisio creu'r LiveCD mewn modd anuniongyrchol drwy ei gynhyrchu o teclun mae'n datblygu o'r enw mklivecd - sef hyd y gwelai i jisyt casgliadau o sgriptiau Perl. Rhagor o http://www.linuxminicd.org/mklivecd/. 

Yn barod ar wefan LiveCD PCLinux mae na chysylltiadau i ddau LiveCD wedi eu greu o mklivecd - un sy'n fersiwn Fietnameg. Ond mae mklivecd ar y moment dal yn cael ei ddatblygu a pwy a wyr pa bryd bydd rhyddhad sefydlog ar gael. Fe all rhywun anturus ceisio ei brofi. 

Beth bynnag, yn y pen draw fysa LiveCD o'r fath nid yn unig yn defnyddiol i hysbysebu meddalwedd rhydd Cymraeg i oedolion ond yn ffordd ddeniadol iawn iawn i ysgolion gallu cynnig ffordd hawdd a rhad i'w disgyblion gallu gweithio mwy gyda cyfrifiaduron o gartref. Dwi'n bendant fysa gan cyngor neu ysgol yn y Gogledd ddiddordeb i ymchwilio a chydweithredu ar y bosibiliadau i'w ddisgyblion gallu defnyddio LiveCD Cymraeg gyda ffyn cof. Yr unig ffordd arall yw nhw i brynu PCs/gliniaduron arbennig gyda Longhorm Cymraeg arnyn nhw i'w ddisgyblion cael mynd adref gyda nhw. A fel mae Windows, bydd y cwpl wedi torri o fewn chwe wythnos neu bydd gemau wedi eu osod ar ben meddalwedd gwaith cartref.

Dewi.



---------- Original Message ----------------------------------
From: Kevin Donnelly <kevin dotmon com>
Reply-To: kevin dotmon com
Date:  Tue, 13 Jan 2004 09:24:12 +0000

On Monday 12 January 2004 5:25 pm, David Chan wrote:
> > Good news for Welsh but, as I noted earlier, it means that one
> > selling point for free software is no longer unique.
>
> Dwi ddim yn siwr bod hi'n "newyddion da" i'r Iaith.  Os bydd pobl yn
> cael eu cloi i mewn i MS Office / Windows gan fformatiau caeedig, ac os
> na fydd Microsoft yn ryddhau fersiynau newydd yn Gymraeg wedyn, gallai
> pobl orfod defnyddio meddalwedd Saesneg Microsoft yn y dyfodol.  Felly
> gallai bod pwysau mawr ar Bwrdd yr Iaith i ariannu'r fersiyn Cymraeg
> nesaf.

Dwi'n gweld eich pwynt.  Ond bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl bod hyn yn cam 
ymlaen, a yn y sector cyhoeddus ni fyddant yn meddwl yn bellach ymlaen na 
tair blynedd (cymharer yr addroddiadau diweddar ynglyn â'r NHS a BECTA).  
Mae'r berygl o gael eich cloi i mewn yn bell o'i feddwl ar hyn o bryd (ond 
efallai mae problemau Newham yn ryw fath o rybudd).  

Gyda llaw, nes i anghofio ddiolch i chi ynglyn â'r prisiau crynoddisgiau - 
bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol pan dyn ni'n dechrau gwneud CD "blasydd" yn y 
gwanwyn.  (Dwisho hi fod yn barod, wedi'i phrofi ac ati, erbyn yr 
Eisteddfod.)  Ond er bod y pris bob-CD yn rhad, bydd angen gael rhyw 
ffynhonnell arian i feddwl am wario tua £3,000.  Mae hyn yn pwyntio eto i'r 
angen sefydlu mudiad o ryw fath.

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy

 




________________________________________________________________
Sent via the WebMail system at gwelywiwr.org


 
                   


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]