Re: [gnome-cy] y "Translation Project"



Ar 02/01/2004 am 21:19, ysgrifennodd Kevin Donnelly:
> > Dwi'n meddwl ei fod e ychydig yn od cael rhestr o'r enw "gnome-cy" sydd
> > ddim ar gyfer gnome-cy yn unig, mae e fel dweud fod y gwaith cyfieithu
> > arall yn eilol, sydd ddim yn wir o gwbl.
> 
> Dwi'n cydweld bod angen cael rhestr ebost i gyfeirio at bopeth sy'n cael ei 
> wneud.  Dwi'n meddwl bydd hyn yn mynd yn fwy a fwy pwysig wrth i bethau 
> ddatblygu.  (Ymddiheuriadau am ddefnyddio gnome-cy ar gyfer pethau sydd ddim 
> yn ymwneud â GNOME yn benodol.)  Tybed a ydy'n syniad da i ddefnyddio 
> e-gymraeg?  Ar hyn o bryd, dwi'n cael y teimlad bod hwn yn fwy am gyrff 
> "swyddogol", ond efallai buasai'n gymorth i rheiny i weld trafodaethau 
> "ymarferol" - buasai'n dangos sut mae pethau yn datblygu, a bod 'na "ager" tu 
> ôl y syniad o feddalwedd rhydd.  Efallai gall Dewi roi ei swllt-werth...

Croeso i bobl ddefnyddio'r rhestr am bethau nad ydynt yn ymwneud a
GNOME. Rydw i ond yn poeni fod pethau eraill megis KDE a OOo a Mozilla,
pan maent yn cael eu trafod yma, yn cael eu gweld yn llai pwysig na
GNOME gan mai "gnome-cy" yw enw'r rhestr. Hynny yw, fe fyddai ychydig
well gen i gael fforwm mwy cyffredinol ei enw.

Dydw i ddim yn meddwl byddai defnyddio'r rhestr e-gymraeg yn addas: fe
fyddai perygl boddi defnydd gwreiddiol y rhestr.

> Fel mae Rhoslyn yn dweud, mae cychwyn cywaith cyfieithu yn wahanol i gael 
> cyfieithwyr, ond dwi'n meddwl bydden nhw'n dod yn y diwedd (mae KGyfieithu 
> wedi bod yn resymol lwyddiannus) os wneir ymdrechion o gwmpas y cyfieithu.  
> (Mae hyn yn bwysig hefyd os bydd Bwrdd yr Iaith yn cyllido cyfieithiad 
> Windows - mae angen wedyn pwysleisio manteision eraill meddalwedd rhydd.)

Prif bwrpas cofrestri gyda'r TP ar hyn o bryd yw gallu cyfieithu
cydrannau meddalwedd a gaiff eu defnyddio gan GNOME yn y dyfodol, ond
nid ydynt yn trugo yn CVS GNOME. Fodd bynnag, mae cofrestri gyda'r TP yn
ein caniatau ni i gyfieithu pob math o bethau eraill, fel bonws. Mae hyn
yn beth tymor hir. Yn y tymor byr, mae cofrestri yn rhywbeth sydd angen
ei wneud fel rhan o gyfieithu GNOME.

Nodwch hefyd y bydd rhai pethau a gaiff eu cyfeitihu drwy'r TP yn cael
eu defnyddio gan prosiectau eraill megis KDE hefyd, yn enwedig cydrannau
sy'n rhan o'r ymgyrch FreeDesktop.

> - cronfa ddata o feddalwedd yn Gymraeg, lle i'w chael, sut i'w gosod, ac ati 
> (fel wnaethon ni sôn amdani o safbwynt CymruArLinux);

Dwi o hyd yn awyddys datblygu hyn rhywbryd.

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]