Re: [gnome-cy] y "Translation Project"



Helo!

Dyma fy 2c

Ysgrifennodd Kevin Donnelly:

>On Friday 02 January 2004 8:33 am, Dafydd Harries wrote:
>
>>Dwi'n meddwl cychwyn tîm Cymraeg ar gyfer y "Translation Project" --
>>prosiect sy'n trefnu cyfieithu meddalwedd rhydd. Mae'n nifer fawr o
>>ddarnau o feddalwedd yn defnyddio'r TP, yn cynnwys pecynnau sy'n
>>elfennau sylfaenol o systemau GNU (libc, fileutils, coreutils, bash,
>>gcc) a ffeiliau pwysig ô'r prosiect FreeDesktop.
>
>
>Y TP Debian yw hwn, neu be?  Yn gyffredinol, dwi'n cydweld â'ch syniad - fel 
>dwi 'di dweud o'r blaen, mae angen cyfieithu mwy na "esgyrn" y cysawd 
>gweithredu - mae angen "cnawd" cymwysiadau ar ddefnyddwyr hefyd.  
>
>>Dwi'n meddwl ei fod e ychydig yn od cael rhestr o'r enw "gnome-cy" sydd
>>ddim ar gyfer gnome-cy yn unig, mae e fel dweud fod y gwaith cyfieithu
>>arall yn eilol, sydd ddim yn wir o gwbl.
>
>
>Dwi'n cydweld bod angen cael rhestr ebost i gyfeirio at bopeth sy'n cael ei 
>wneud.  Dwi'n meddwl bydd hyn yn mynd yn fwy a fwy pwysig wrth i bethau 
>ddatblygu.  (Ymddiheuriadau am ddefnyddio gnome-cy ar gyfer pethau sydd ddim 
>yn ymwneud â GNOME yn benodol.)  Tybed a ydy'n syniad da i ddefnyddio 
>e-gymraeg?  Ar hyn o bryd, dwi'n cael y teimlad bod hwn yn fwy am gyrff 
>"swyddogol", ond efallai buasai'n gymorth i rheiny i weld trafodaethau 
>"ymarferol" - buasai'n dangos sut mae pethau yn datblygu, a bod 'na "ager" tu 
>ôl y syniad o feddalwedd rhydd.  Efallai gall Dewi roi ei swllt-werth...
>
Bwriad rhestr e-Gymraeg yw i drafod a rhannu gwybodaeth ynghylch ddatlbygiadau meddalwedd o pob fath (h.y. agored/rhydd, caedig, penodol) yn y Gymraeg ymysg aelodau o'r sectorau preifat, cyhoeddus ac addysg. Dwi'm yn credu ei bod o'n le addas i drafod gwaith o fewn unrhyw brosiect.

>
>Fel mae Rhoslyn yn dweud, mae cychwyn cywaith cyfieithu yn wahanol i gael 
>cyfieithwyr, ond dwi'n meddwl bydden nhw'n dod yn y diwedd (mae KGyfieithu 
>wedi bod yn resymol lwyddiannus) os wneir ymdrechion o gwmpas y cyfieithu.  
>(Mae hyn yn bwysig hefyd os bydd Bwrdd yr Iaith yn cyllido cyfieithiad 
>Windows - mae angen wedyn pwysleisio manteision eraill meddalwedd rhydd.)
>
Wel, dwi'm yn meddwl bydd BYI/Cynulliad yn gallu fforddio talu MS i gyfieithu Longhorn, heb son am costau trwyddedau i bob ysgol yng Nghymru.

Dwi ddim yn gyfan gwbl cyfarwydd gyda FreeDesktop.org a'r TP  a faint yw'r gwaith ond weithiau does dim angen lawer o cyfieithwyr(?). Mae un hyd yn oed yn gallu bod yn digon fel mae Rhoslyn wedi dangos gyda OpenOffice a Mozilla. Ond mae nifer fel sy'n Gnome-cy yn gallu bod o fudd hefyd cyn belled bod y 'barriers' i gallu cyfrannu yn is.

Dwi meddwl ddyle ni gwneud bopeth alle ni i cyd-gweithio i codi ymwybyddiaeth yn y wahanol sectorau ac ar gallu cynnig iddyn nhw cyn gynted ac y bosib systemau meddalwedd rhydd Cymraeg cynhwysfawr sydd yn hawdd i'w gosod a'u defnyddio heb iddyn nhw colli unrhyw nodweddion.

>
>Y math o ymdrechion lletach dwi'n sôn amdanynt yw:
>- ffordd o nodi camgymeriadau yn y cyfiethiad (bydd app syml - Korrect/Kywir - 
>ar gyfer KDE yn Gymraeg ar ôl i 3.2 ddod allan diwedd Ionawr);
>- geiriadur ar-lein o ansawdd da (rhywbeth debyg i Aurfa), efo termau o'r 
>cyfieithiadau yn cael eu bwydo i mewn iddo hefyd;
>
Dwi meddwl bod ein brosiectau ni angen rhagor o terminoleg safonol - e.e. beth yw 'bookmarks'. ayb.  Mae CB wedi dechrau ar y gwaith o gynhyrchu gronfa data termau i Bwrdd yr Iaith :

http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/wa.exe?A2=ind0311&L=e-gymraeg&T=0&F=&S=&P=182

a all fod o help gobeithio.

>
>- cronfa ddata o feddalwedd yn Gymraeg, lle i'w chael, sut i'w gosod, ac ati 
>(fel wnaethon ni sôn amdani o safbwynt CymruArLinux);
>- ffordd hawdd o arbrofi meddalwedd rhydd (fel fersiwn Knoppix Cymraeg);
>
Welis i hwn yn diweddar o Slashdot:

http://slashdot.org/article.pl?sid=03/12/30/0044245&mode=thread&tid=106&tid=147&tid=185&tid=187

http://www.pclinuxonline.com/pclos/pclinuxos.html

Sydd a cyswllt i cyfarwyddiadau ar sut i greu LiveCD o Mandrake 9.2 eich hunain. Felly alle ni cael Gnome 2.4, OpenOffice, Mozilla Cymraeg o leiaf arno. Dwi meddwl mae na gwaith yn PCLinux OS i cael y memory sticks i gweithio hefyd. :)

>
>- casgliad o howtos, tutorials, ac ati, i gynorthwyo pobl sy'n dechrau meddwl 
>am feddalwedd rhydd;
>- corff sy'n gallu siarad am fanteision meddalwedd rhydd, dosbarthu papurau ac 
>ati ynglyn â nhw, cyhoedduso cyfieithiadau newydd, ayyb;
>- gwneuthurwyr lleol o gyfrifiaduron sy'n fodlon adeiladu cysawdau 
>deuol-ymgychwyn;
>- astudiaethau peilot (efallai wedi'u cynnal gan LUGs) mewn llefydd fel 
>ysgolion i gael gwybodaeth galed ynglyn â defnydd ymarferol meddalwedd rhydd 
>yn Gymraeg;
>
Dwi meddwl system delfrydol fysa i rhoid LiveCDs a memory sticks i blant er mwyn iddyn nhw gwneud eu gwaith carftref adref ar peiriannau eu hunain.

>
>- annog llyfrgelloedd i fenthyg copiau meddalwedd rhydd, fel a wneir yn yr 
>Alban rwan.
>
>Felly na'i helpu sut bynnag y galla i efo'r cywaith newydd, ar y dealltwriaeth 
>fy mod i am wario gryn dipyn o f'amser rhydd dros y chwe mis nesaf ar yr 
>eitemau uchod!  Yn benodol, ar ôl i 3.2 ddod allan, dwisho gwneud Knoppix 
>Cymraeg, ychwanegu at Aurfa, ac ysgrifennu mwy o "gefndiryddion" mewn amser 
>i'r Eisteddfod ym mis Awst..
>
Ella fysai'n syniad i bawb dweud eu ddymuniadau am y blwyddyn newydd a ble bydden nhw'n gobeithio cyd gweithio arno(?)

Dyma rhai fi :

 - Trosi o'r diwedd o WinXP i Linux Cymraeg ar fy nghyfrifiadur cartref :)
 - OpenOffice Cymraeg ar Linux ac ar Windows.
 - gyda Canolfan Bedwyr - rhyddhau gwirydd sillafu Cymraeg OOo a helpu creu gwirydd sillafu i systemau eraill. Integreiddio CySill a Cysgair i OOo yn yr un modd a Word.
 - dysgu rhagor ac sut i rhaglennu o fewn OpenOffice ac ar sut i ychwanegu rhagor o nodweddion handi i ddefnyddwyr Cymraeg
 - helpu gyda creu LiveCD Cymraeg.
 - parhau gyda darparu fersiynau Cymraeg o Mozilla /Firebird / Thunderbird a'r Calendr.
 - ychwanegu wellianau i fy mhet project bach arall i sef l10nzilla (l10nzilla.mozdev.org)
 - parhau i ychwanegu nodweddion Cymraeg iddyn nhw - e.e. sillafydd Cymraeg, integreiddio chwilotwyr/geiriaduron Cymraeg, ToBach

Hwyl,
Dewi.
 




________________________________________________________________
Sent via the WebMail system at gwelywiwr.org


 
                   


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]