Re: [gnome-cy] y "Translation Project"



On Friday 02 January 2004 8:33 am, Dafydd Harries wrote:
> Dwi'n meddwl cychwyn t�Cymraeg ar gyfer y "Translation Project" --
> prosiect sy'n trefnu cyfieithu meddalwedd rhydd. Mae'n nifer fawr o
> ddarnau o feddalwedd yn defnyddio'r TP, yn cynnwys pecynnau sy'n
> elfennau sylfaenol o systemau GNU (libc, fileutils, coreutils, bash,
> gcc) a ffeiliau pwysig �prosiect FreeDesktop.

Y TP Debian yw hwn, neu be?  Yn gyffredinol, dwi'n cydweld �h syniad - fel 
dwi 'di dweud o'r blaen, mae angen cyfieithu mwy na "esgyrn" y cysawd 
gweithredu - mae angen "cnawd" cymwysiadau ar ddefnyddwyr hefyd.  

> Dwi'n meddwl ei fod e ychydig yn od cael rhestr o'r enw "gnome-cy" sydd
> ddim ar gyfer gnome-cy yn unig, mae e fel dweud fod y gwaith cyfieithu
> arall yn eilol, sydd ddim yn wir o gwbl.

Dwi'n cydweld bod angen cael rhestr ebost i gyfeirio at bopeth sy'n cael ei 
wneud.  Dwi'n meddwl bydd hyn yn mynd yn fwy a fwy pwysig wrth i bethau 
ddatblygu.  (Ymddiheuriadau am ddefnyddio gnome-cy ar gyfer pethau sydd ddim 
yn ymwneud �NOME yn benodol.)  Tybed a ydy'n syniad da i ddefnyddio 
e-gymraeg?  Ar hyn o bryd, dwi'n cael y teimlad bod hwn yn fwy am gyrff 
"swyddogol", ond efallai buasai'n gymorth i rheiny i weld trafodaethau 
"ymarferol" - buasai'n dangos sut mae pethau yn datblygu, a bod 'na "ager" tu 
� syniad o feddalwedd rhydd.  Efallai gall Dewi roi ei swllt-werth...

Fel mae Rhoslyn yn dweud, mae cychwyn cywaith cyfieithu yn wahanol i gael 
cyfieithwyr, ond dwi'n meddwl bydden nhw'n dod yn y diwedd (mae KGyfieithu 
wedi bod yn resymol lwyddiannus) os wneir ymdrechion o gwmpas y cyfieithu.  
(Mae hyn yn bwysig hefyd os bydd Bwrdd yr Iaith yn cyllido cyfieithiad 
Windows - mae angen wedyn pwysleisio manteision eraill meddalwedd rhydd.)

Y math o ymdrechion lletach dwi'n s�mdanynt yw:
- ffordd o nodi camgymeriadau yn y cyfiethiad (bydd app syml - Korrect/Kywir - 
ar gyfer KDE yn Gymraeg ar � 3.2 ddod allan diwedd Ionawr);
- geiriadur ar-lein o ansawdd da (rhywbeth debyg i Aurfa), efo termau o'r 
cyfieithiadau yn cael eu bwydo i mewn iddo hefyd;
- cronfa ddata o feddalwedd yn Gymraeg, lle i'w chael, sut i'w gosod, ac ati 
(fel wnaethon ni s�mdani o safbwynt CymruArLinux);
- ffordd hawdd o arbrofi meddalwedd rhydd (fel fersiwn Knoppix Cymraeg);
- casgliad o howtos, tutorials, ac ati, i gynorthwyo pobl sy'n dechrau meddwl 
am feddalwedd rhydd;
- corff sy'n gallu siarad am fanteision meddalwedd rhydd, dosbarthu papurau ac 
ati ynglyn �hw, cyhoedduso cyfieithiadau newydd, ayyb;
- gwneuthurwyr lleol o gyfrifiaduron sy'n fodlon adeiladu cysawdau 
deuol-ymgychwyn;
- astudiaethau peilot (efallai wedi'u cynnal gan LUGs) mewn llefydd fel 
ysgolion i gael gwybodaeth galed ynglyn �efnydd ymarferol meddalwedd rhydd 
yn Gymraeg;
- annog llyfrgelloedd i fenthyg copiau meddalwedd rhydd, fel a wneir yn yr 
Alban rwan.

Felly na'i helpu sut bynnag y galla i efo'r cywaith newydd, ar y dealltwriaeth 
fy mod i am wario gryn dipyn o f'amser rhydd dros y chwe mis nesaf ar yr 
eitemau uchod!  Yn benodol, ar � 3.2 ddod allan, dwisho gwneud Knoppix 
Cymraeg, ychwanegu at Aurfa, ac ysgrifennu mwy o "gefndiryddion" mewn amser 
i'r Eisteddfod ym mis Awst..

Gadewch i mi wybod am y camau nesaf.

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]