Re: [gnome-cy] y "Translation Project"



On Saturday 03 January 2004 12:47 pm, Dewi Jones wrote:
> Bwriad rhestr e-Gymraeg yw i drafod a rhannu gwybodaeth ynghylch
> ddatlbygiadau meddalwedd o pob fath (h.y. agored/rhydd, caedig, penodol) yn
> y Gymraeg ymysg aelodau o'r sectorau preifat, cyhoeddus ac addysg. Dwi'm yn
> credu ei bod o'n le addas i drafod gwaith o fewn unrhyw brosiect.

Iawn - nes i gofio hynnys ar �ysbysu.  Buasai'n well wedyn i Dafydd gychwyn 
rhestr newydd, YFMO.

> Wel, dwi'm yn meddwl bydd BYI/Cynulliad yn gallu fforddio talu MS i
> gyfieithu Longhorn, heb son am costau trwyddedau i bob ysgol yng Nghymru.

Hmmm.  Hyd yn oed pe bai MS yn cynnig "talu" am y cyfieithiad efo trwyddeddau 
"rhydd" ar gyfer ysgolion?  Nid yw hyn yn amhosibl, a buasai'n deniadol i rai 
sydd dan yr argraff bod Windows yn "safonol".  Dyna be fuaswn i'n cynnig os 
oeddwn i'n gweithio ar gyfer MS ...

> Mozilla. Ond mae nifer fel sy'n Gnome-cy yn gallu bod o fudd hefyd cyn
> belled bod y 'barriers' i gallu cyfrannu yn is.

Yn union.

> Dwi meddwl bod ein brosiectau ni angen rhagor o terminoleg safonol - e.e.
> beth yw 'bookmarks'. ayb.  Mae CB wedi dechrau ar y gwaith o gynhyrchu
> gronfa data termau i Bwrdd yr Iaith :

Da iawn.

> Sydd a cyswllt i cyfarwyddiadau ar sut i greu LiveCD o Mandrake 9.2 eich
> hunain. Felly alle ni cael Gnome 2.4, OpenOffice, Mozilla Cymraeg o leiaf
> arno. Dwi meddwl mae na gwaith yn PCLinux OS i cael y memory sticks i
> gweithio hefyd. :)

Mae hyn yn ddiddorol.  Nes i weld y LiveCD, ond doeddwn i ddim yn siwr faint 
oedd yn bosibl i'w newid.  Mae PCLO yn edrych yn fwy diddorol, ond nid oes 
cymaint o "gymuned" o'i gwmpas a sydd o gwmpas Knoppix eto.  Mae hyn yn 
bwysig, gan fod angen gwneud mwy na "cyfieithiad" o'r distro - mae angen 
llwytho pob darn o feddalwedd rhydd yn Gymraeg arnodd.  Ar y llaw arall, mae 
MDK wedi'i gyfieithu yn barod gan Rhoslyn (gyda llaw, Rhos - mae eich llythyr 
yn LinuxFormat y mis yma!), ac rydym yn gwybod bod Gnome 2.4 yn gweithio 
arnodd.

Yr unig amheuaeth sydd gen i ynglyn �DK yw bod bob rhyddhad o hyd yn edrych 
i mi fel "dim wedi'i gwblhau'n hollol" - mae bob fersiwn dwi wedi'i drio wedi 
bod efo rhai camgymeriadau sydd ddim yn fawr, ond sy'n atal iddo rhag 
weithio'n iawn i'r defnyddiwr.  Roedd gan 9.2, er enghraifft, y problem efo 
gyrryddion crynoddisgiau LG lle cafwyd eu sadwedd ei dileu.  Bai y 
rhaglennwyr LG oedd hwn, dim bai MDK, ond dim cyfarwyddiad hapus iawn i rai 
defnyddwyr newydd.

> Dwi meddwl system delfrydol fysa i rhoid LiveCDs a memory sticks i blant er
> mwyn iddyn nhw gwneud eu gwaith carftref adref ar peiriannau eu hunain.

Syniad da, ond mae cof-ffyn yn fwy costus :-)

>  - Trosi o'r diwedd o WinXP i Linux Cymraeg ar fy nghyfrifiadur cartref :)

Hwre!

>  - gyda Canolfan Bedwyr - rhyddhau gwirydd sillafu Cymraeg OOo a helpu creu
> gwirydd sillafu i systemau eraill. Integreiddio CySill a Cysgair i OOo yn
> yr un modd a Word. 

Dwi'n edrych ymlaen at hwn.

> - helpu gyda creu LiveCD Cymraeg.

Gawn ni siarad am hyn diwedd Ionawr :-)

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]