Re: [gnome-cy] y "Translation Project"



Blwyddyn newydd dda i bawb!

Byddwn i'n meddwl cadw at y drefn bresennol os yw pobl yn hapus gyda hynny... Os nad creu rhestr drafod newydd mwy cyffredinol ar gyfer cyfieithu meddalwedd.

Pob lwc gyda casglu'r tim mae na lawer i'w wneud o hyd - ond mae'n hwyl!

Rhos


Dwi'n meddwl cychwyn tîm Cymraeg ar gyfer y "Translation Project" --
prosiect sy'n trefnu cyfieithu meddalwedd rhydd. Mae'n nifer fawr o
ddarnau o feddalwedd yn defnyddio'r TP, yn cynnwys pecynnau sy'n
elfennau sylfaenol o systemau GNU (libc, fileutils, coreutils, bash,
gcc) a ffeiliau pwysig ô'r prosiect FreeDesktop.

Mae FreeDesktop (http://freedesktop.org) yn dod yn fwy a fwy pwysig ym
myd meddalwedd rhydd. Mae e nawr yn cynnwys GStreamer, sy'n sylfaen i
Totem a Rhythmbox (ymysg eraill) a fontconfig, sy'n tanseilio system
ffontiau GTK+. Mae hefyd yn cynnwys nifer o brosiectau arall, megis
cairo a D-BUS, sy'n debygol o fod yn rhannau pwysig o benbyrddau rhydd
yn y dyfodol.

Mae'r TP eisioes yn gyfrifol am dri modiwl (shared-mime-info,
scrollkeeper a xfree86_xkb_xml) a fydd yn rhaid eu cyfieithu erbyn i
GNOME 2.6 gael ei rhyddhau er mwyn cael cyfieithiad cyfan o GNOME bryd
hynny. Byddai creu tîm cymraeg hefyd yn ein galluogi ni i gyfieithu
meddalwedd sylfaenol GNU megis libc.

Mae un cwestiwn pwysig cyn i fi greu'r tîm: beth ddylai'r tîm ddefnyddio
fel rhestr trafod? Byddai'n bosib ailddefnyddio'r rhestr gnome-cy, neu
creu un newydd. Ymddengys i fi y defnyddir y rhestr gnome-cy eisioes ar gyfer
pob math o faterion sy'n gysylltiedig a chyfieithu meddalwedd rhydd i'r
Gymraeg, a nid ar gyfer cyfieithu GNOME yn unig. Beth mae pobl yn
meddwl: a ddyla i ailddefnyddio'r rhestr gnome-cy, neu a fasai'n well
cael rhestr newydd gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfieithu GNOME, KDE,
TP, ac unrhywbeth arall?

Dwi'n meddwl ei fod e ychydig yn od cael rhestr o'r enw "gnome-cy" sydd
ddim ar gyfer gnome-cy yn unig, mae e fel dweud fod y gwaith cyfieithu
arall yn eilol, sydd ddim yn wir o gwbl.




--
Rhoslyn Prys
Lleoleiddio Meddalwedd Cymraeg
Welsh Language Software Localization
www.meddal.org.uk


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]