Re: [gnome-cy] termau



On Sunday 07 September 2003 22:12, Dafydd Tomos wrote:
> Mae 'glud' yn sylwedd gweddol barhaol a nid dyna pwrpas y clipboard
> ond 'bocs' i gadw darnau o destun neu lun dros dro. Clipfwrdd yw'r
> gair sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn barod. Os oedd rhaid
> cyfieithu gair o'r cychwyn yn nghyd-destun Cyfrifadureg, fase rhaid
> meddwl am air sy'n golygu 'storfa dros dro er mwyn copio data rhwng
> rhaglenni' ond yn lwcus does dim rhaid i ni wastraffu amser ar hynny.

Diddorol.  Dydw i ddim yn meddwl o "clipboard" fel bocs, ond fel bwrdd efo 
nodiadau "post-it" arno - fel "pinboard" yn Saesneg.  Mae klipper yn KDE yn 
ymddwyn felly.  Felly i mi mae gludfwrdd yn gwneud mwy o synnwyr.

> Sgwrs yw ymgom. Ond nid sgwrs yw bocsys deialog, ond un neu fwy o
> gwestiynau gyda ateb penodol. Dyw'r gair saesneg ddim wedi cael ei
> ddefnyddio mewn ffordd hollol gywir ond dwi ddim yn credu fod e'n
> gwneud synnwyr defnyddio term anghyfarwydd i ddisgrifio rhywbeth lle
> mae cyfieithiad hollol addas yn cael ei ddefnyddio bob dydd yn y byd
> 'go iawn'.

Mae'r gair Saesneg yn dod o air Roeg am "two-speech", h.y. "conversation" neu 
sgwrs, felly dydi "ymgom" ddim yn bell iawn o hynny.  Mae gan y defnyddiwr 
dim dewis am y cwestiynau, ond mae ganddo ddewis am yr atebion :-)

Mae'r pwynt lletach am ddefnyddio geiriau sy'n cael eu defnyddio yn barod yn 
un anodd.  Swn i'n dweud bod rhaid hyd yn oed i bobl arferol Saesneg ddysgu 
be mae "dialogue" yn golygu ym maes cyfrifiadureg, felly oes problem dysgu 
gair Gymraeg yn lle un Saesneg/Groeg?  Ac wrth gwrs, pe buasech yn 
mabwysiadu'r polisi yno o hyd, buasech yn clywed cyn bo hir pethau fel "dwi'n 
imajino spidar mawr yn cleimio dros fy scwlbag", neu "mae'r stesion wedi 
complitli destroio".  Dwi 'di clywed plant a bobl ifainc (weithiau roeddynt 
yn berthyn i mi hefyd!) yn defnyddio pethau fel hyn.  Mae'n ddefnydd diddorol 
iawn o iaith - geiriau Saesneg mewn matrics o gystrawen Gymraeg - ond YFMO 
(IMHO) mae'n well defnyddio gair efo gwraidd Cymraeg lle bo'n bosib.
-- 

Pob hwyl

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]