Re: [gnome-cy] Y Gymdeithas Feddygol



On Thu, Nov 13, 2003 at 06:56:03PM +0000, Kevin Donnelly wrote:
> On Thursday 13 November 2003 5:06 pm, Dafydd Harries wrote:
> > Dwi'n awgrymu'n gryf ein bod ni'n trafod hyn. Mae GNOME, wedi tipyn o
> > bendroni, yn defnyddio "Llyfrnod" ("Llyfrnodau"), a Mozilla yn defnyddio
> > "Nod Tudalen" ("Nodau Tudalen"). Am ychydig roeddwn ni'n meddwl
> > defnyddio gwahanol dermau, megis "Atgof" ond penderdynwyd fod "Llyfrnod"
> > yn well gan ei fod e'n fwy tebygol i ddefnyddwyr ei adnabod e.
> 
> Iawn.  Dwi'n meddwl bod "nod tudalen" yn cydweddu ystyr y Saesneg yn well, ond 
> mae'n rhy chwithig.

Dwi ddim yn meddwl fod rhaid byrhau pob gair anghyfarwydd sydd yn
"chwithig". Mae'n eitha diddorol i 'nodi' mai 'nod tudalen' sydd wedi
ei ddefnyddio ers blynyddoedd (cyn y we) am 'bookmark' i'w rhoi mewn
llyfr papur. Ond prin iawn fyddai neb yn defnyddio'r term ar lafar gan
fod dim wir ei angen. Wedi'r cyfan, os ydw i'n darllen llyfr ac yn
rhoi darn o bapur neu strip o ledr i farcio lle - ar fy nghyfer i mae
hwnna yn unig a sdim rhaid i fi ddisgrifio'r peth i neb arall.

Nawr wrth gwrs, mae'n siwr fod llawer mwy o bobl yn gwneud defnydd bob
dydd o'r we i gymharu a'r rhai sydd yn darllen llyfrau. Ac wrth gwrs,
mae yna fwy o ddefnydd o'r gair wrth esbonio wrth bobl sut i gofnodi
cyfeiriad gwe.

Ffordd hir yw hyn i ddweud fod yna reswm da, weithiau, dros greu term
newydd bachog yn hytrach na'r term "cywir". Mae tudnod(au) yn eitha'
da ond mae e dal yn swnio fel gair wedi ei greu mewn labordy.

Mae yna air arall a gafodd ddefnydd helaeth ar un adeg. Er mod i'n
casau y 'Favorites' (sic) yn Internet Explorer rhaid dweud mod i'n
eitha hoffi "Ffefrynnau" a mae llawer o bobl wedi dewis defnyddio hwn
yn hytrach na creu term newydd nad oes neb yn ei ddeall.

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]