[gnome-cy] Sut mae pethau



Mae hi wedi bod yn andros o dawel yma'n ddiweddar. Yn wir, mae wedi bod
yn dawel iawn ers i GNOME 2.4 gael ei rhyddhau. Ro'n i#n meddwl byddai'n
syniad da i fi ddweud air neu ddau ynglyn a sut mae pethau.

(Fel y digwyddodd, mwy na "gair neu ddau" yw'r ebost hwn. Dwi'n
ailadrodd pethau dwi wedi dweud o'r blaen, dwi'n meddwl. Ond mae'n dda
cael gwybod ble'r ydym ni a lle rydym ni'n mynd.)

Mae cangen datblygaeth 2.5 GNOME wedi cychwyn, a mae'r llinynau yn CVS
wedi dechrau newid eisioes. Dyma safle gwe GNOME 2.5:

	http://www.gnome.org/start/2.5/

GNOME 2.5 yw'r cangen a ddaiff yn 2.6 yn y pen draw: ar yr 8fed o Fawrth
2004 os aiff pethau yn ôl y cynllun. (Mae GNOME wedi tueddi cadw at y
dyddiadau'n weddol agos ers blwyddyn neu ddau.)

Mae tudalenau gan y GTP ar gyfer 2.6 eisioes:

	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/index.html

Ar hyn o bryd, mae 36.41% ô'r llinynau yn CVS wedi cyfieithu gannom, .
Bydd y canran yma'n mynd i lawr os mae llinynau yn newid yn CVS ac yn
mynd i fyny os ydym ni yn cyfrannu mwy o gyfieithiadau. Mae hi mor syml
a hynny! (Wel, mwy neu lai.)

Dyma olwg mwy manwl ar lle rydym ni ar hyn o bryd:

	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/index.html

Fel ô'r blaen, y categorïau "developer-libs" a "desktop" yw'r rhai
pwysica, a fel gallwch chi weld, mae'r canrannau yma o hyd yn eitha
uchel. Y modylau sydd angen gwaith mwya yn y categorïau yma:

 . gail
	Mae gail yn becyn newydd yn developer-libs yn 2.5, felly dydym
	ni heb ei gyfieithu e eto. Mae 103 llinyn iddo, felly dyma dasg
	bach neis i rhywun. Mae'r pecyn yn gysylltiedig a rhaglennigion,
	dwi'n meddwl.

 . gnome-vfs
	Mae 2 llinyn wedi newid, 38 llinyn wedi ychwanegu yma.

 . eog
	12 wedi newid, 13 llinyn wedi ychwanegu.

 . gnome-terminal
	83 llinyn wedi newid, 1 wedi ychwanegu.

 . gnomemeeting
	80 llinyn wedi newid, 59 wedi ychwanegu yma!

 . metacity
	7/41

 . nautilus
	42/16

 . procman
	16/6

Os ydy pobl eisiau cyfieithu/diweddaru y modulau uchod, ewch i dudalen
gwe y GTP a chymryd y ffeil PO o'r fan'na. Yna, ebostiwch fi fel 'mod
i'n gwybod eich bod chi'n gweithio arni. Yna, ar ôl i chi orffen
diweddaru'r ffeil, ebostiwch e ata i a fe wna i ei ddiweddaru e yn CVS.
Hawdd!

Yn gyffredinol, mae diweddaru llinynau sydd wedi newid yn haws na
chyfieithu llinynau o'r dechrau.

Ydi, mae 2.6 yn bell i ffwrdd, ond os ydym ni'n cwympo'n ôl, caletach
fyth fydd hi i orffen popeth erbyn 2.6. Gwell taenu'r llwyth dros amser
na rhuthro tuag at y diwedd.

Wrth gwrs, mae llwythi o feddalwedd dydym ni heb gyfieithu o gwbl eto! Y
tu allan i developer-libs a desktop, y categori sydd  bwysicaf yw
"fifth-toe". Uwchben y pecynnau safonol, mae'n cynnwys pecynnau
poblogaidd a defnyddiol. Mae'n cynnwys y chwaraewr cyfrwng Totem, sydd
wedi ei gyfieithu eisoes gennym. Mae'n debygol bydd Totem yn symud i
fewn i'r categori "desktop" erbyn 2.6, fell dylem ni gadw llygad ar
hwnnw.

	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/fifth-toe/index.html

Y tu hwnt i hwnnw, mae'r categorïau "developer-app", "office", ac
"extras":

	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/developer-app/index.html
	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/office/index.html
	http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/extras/index.html

Yn fy marn i, y rhaglenni pwysicaf dydym ni heb gyfieithu eto yw
evolution (yn "extra"), a gnumeric (yn "office"). Mae copi o gyfieithiad
rhannol o evolution o Kyfieithu gen i, bydda i'n ceisio edrych drwyodd
a'i roi yn CVS cyn bo hir. Dwi'n meddwl gwnaeth Chris peth gwaith efo
gnumeric, ond dydw i ddim yn cofio beth ddigwyddodd iddo. Chris? Mae dy
dudalen gwe di yn rhoi gwallau i fi
(<http://www.xpns.co.uk/tycs/gnome-cy/>).

Wrth gwrs, croeso i bobl anghytuno a fi a chyfieithu be bynnag mae nhw
eisiau. Wna i ddim dweud na i gyfieithiadau!

Newyddion arall: diweddarwyd cyfieithiad Rhythmbox (sydd yn "extra" ar
hyn o bryd, ond a all fod yn "desktop" erbyn 2.6) ar gyfer fersiwn 0.6,
a gafod ei gyhoeddi heddi. Mae Rhythmbox yn chwaraewr cerddoriaeth
addawol iawn.

	http://gnomedesktop.org/article.php?sid=1444&mode=thread&order=0

Diolch i Telsa am ddiweddaru'r cyfieithiad! (Keith Willoughby wnaeth y
cyfieithiad gwreiddiol.)

Pethau eraill sydd wedi eu cyfieithu ers tipyn ond anghofiais i eu
cyhoeddi nhw:

Mae Gossip, cleient negesu parod (instant messaging?) Jabber wedi ei
gyfieithu. Mae'n feddalwedd ifanc ond yn datblygu'n gyflym:

	http://www.imendio.com/projects/gossip/

Mae Monster Masher (Mathrwr Bwystfilod :)) wedi ei gyfieithu. Gêm newydd
ar gyfer GNOME yw e:

	http://www.cs.auc.dk/~olau/monster-masher/

Yn son am êmau, dwi'n clywed fod Monkey Bubble, gêm arall newydd ar
gyfer GNOME eisiau cyfieithiadau:

	http://monkey-bubble.tuxfamily.org/

Rydw i'n eitha prysur ar hyn o bryd, gan fod y prifysgol a phethau
eraill yn gofyn tipyn o fy amser.

Ydi pobl o hyd yn fyw?

Beth yw "resting on your laurels" yn Gymraeg? Gawn ni beidio gwneud
hynny?

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]