[gnome-cy] Y Gymdeithas Feddygol



Dros y benwythnos cynhaliwyd cynhadledd flynyddol y Gymdeithas Feddygol.  
Roedd gen i'r bleser o wneud y Ddarlith Wadd ("Cyfathrebu Cyfoes yn 
Gymraeg"), a nes i siarad am feddalwedd rhydd, KGyfieithu, meddalwedd yn 
Gymraeg, a rhai pethau i wneud efo cyfieithu.

Gobeithio bydd y ddarlith yn cael ei chyhoeddi yng ngylchgrawn y Gymdeithas, 
ac efallai mi fydd ar KGyfieithu mewn dipyn hefyd.

Ges i lawer o adborth diddorol a cymorthwyol gan y gynhadledd, a'r pwyntiau 
mwya pwysig yw:

- Mae gen i un gair am "bookmark" rwan (diolch byth!), sef "tudnod(au)".  Mi 
fyddaf yn ceisio newid yr holl ffeiliau KDE i ddefnyddio hwn cyn y "diwrnod 
cloi" am 3.2 ar 22 Tachwedd.

- O ddiddordeb o safbywnt sgwrs cynharach ar y rhestr, naeth rhai bobl awgrymu 
(heb i fi ddweud) "blwch ymgom" am "dialog box" :-)  Roedd rhai eraill yn 
anfodlon.  Felly nid yw'n amlwg bod y term yma tu hwnt y ffin, o leiaf i rai 
bobl.

- Roedd tua 15% o'r bobl wedi clywed am Linux a meddalwedd rhyd, ond doedd neb 
wedi eu defnyddio nhw.  Roeddwn i'n synnu bod cymaint o'r cylch wedi clywed 
amdanynt, fel mater o ffaith.

- Roedd pobl yn wir synnu wrth glywed eu bod nhw'n defnyddio meddalwedd 
rhydd/agored bob diwrnod ar y W�a bod Yahoo, Google ac Amazon i gyd yn 
defnyddio meddalwedd rhydd.  Mae hwn yn bwynt bwysig i'r dyfodol.

- Roedd pobl yn dderbyniol iawn o'r syniad bod meddalwedd rhydd yn cynnig 
ffordd o greu penbwrdd Cymraeg heb gostio llawer i'w wneud.  Nes i weld mwy 
nag un yn gwneud nodiadau pan nes i ddweud bod y GIG wedi talu $70m i MS am 
drwyddedau penbwrdd, a gofyn am awgrymiadau am lefydd eraill fuasai'n bosib 
gwario'r pres yna yn y GIG.

- Nes i danlinellu bod y cyflwyniad wedi ei wneud ar OpenOffice.org, a 
gofynnes os oedd unrhyw berson wedi sylwi diffyg ansawdd yn cymharu efo'r 
cyflwyniadau eraill oedd ar PowerPoint?  Roedd mwy o sgwennu yma.

- Dafydd, gobeithio na fyddech yn meindio, ond nes i ddefnyddio eich logo yn y 
cyflwyniad.  Mae'r ddraig fach bert yn goch rwan yn lle brown, a dwi'di 
penderfynu bod hi'n eneth, a bod ei henw yw Tanith.  T�- tanio - ehangu ...  
(Tanit(h) was the chief goddess of Carthage, the goddess of light and 
fertility - her less pleasant side is that in times of national crisis, 
first-born children were sacrificed to her.)

- Dewi, mae Rhys Davies yn cofio atoch chi!

- Yn Nhalwrn y Beirdd wrth y cinio, roedd dau englyn wedi ei wneud ar y pwnc 
"Linux", a da iawn maent.  Gobeithio rhoi nhw ar y safwe rhyw dro.  Mae un yn 
gynnil iawn.


-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]