Re: [gnome-cy] Y Gymdeithas Feddygol



On Thursday 13 November 2003 5:06 pm, Dafydd Harries wrote:
> Dwi'n awgrymu'n gryf ein bod ni'n trafod hyn. Mae GNOME, wedi tipyn o
> bendroni, yn defnyddio "Llyfrnod" ("Llyfrnodau"), a Mozilla yn defnyddio
> "Nod Tudalen" ("Nodau Tudalen"). Am ychydig roeddwn ni'n meddwl
> defnyddio gwahanol dermau, megis "Atgof" ond penderdynwyd fod "Llyfrnod"
> yn well gan ei fod e'n fwy tebygol i ddefnyddwyr ei adnabod e.

Iawn.  Dwi'n meddwl bod "nod tudalen" yn cydweddu ystyr y Saesneg yn well, ond 
mae'n rhy chwithig.  Mae "llyfrnod" yn well o safbwynt hyd, ond nid yw'r 
ystyr yn iawn, YFMO.  A "bookmark" is a mark(er) in a book to draw attention 
to a particular page, but to me a "llyfrnod" would draw attention to the book 
itself.  Does that make sense?  "Tudnod" is a translation of the actual 
meaning of the English, whereas "llyfrnod" is what's called a calque, a 
translation of the individual parts of the English word (like "rhyngwyneb" or 
"wynebfath") - both are equally valid as a means of rendering a word in 
another language, so I suppose it comes down to preference.  I'm happy to use 
something that isn't "Nod Tudalen", because that looks weird on the menu bar.

> Buasai'n neis i'r term gael ei safoni ymysg y gwahanol brosiectau.

Yn ddelfrydol, buasai'n well.

> > (heb i fi ddweud) "blwch ymgom" am "dialog box" :-)  Roedd rhai eraill yn
> > anfodlon.  Felly nid yw'n amlwg bod y term yma tu hwnt y ffin, o leiaf i
> > rai bobl.

> Dydw i o hyd ddim yn siwr ynglyn a hyn. Yn bersonol, dwi'n hoffi "Ymgom"
> fel term am "Dialog" - mae defnyddio "Deialog" neu "Dialog" yn teimlo
> ychydig yn estron. Ar y llaw arall, dydw i ddim yn siwr os bydd y
> defnyddwyr yn gallu ei ddaeall e. Dydw i ddim wedi gwneud penderfyniad
> os mae un yn well neu'r llall - mae gan y ddau eu adfanteision.
> "Deialog" yw'r term mae GNOME yn defnyddio'n gyffredinol, er mwyn bod yn
> gyson, ond dydw i ddim yn erbyn newid pethau os mae cytundeb cyffredinol
> fod term arall yn fwy cywir.

Dwi'm yn dweud bod un yn well na'r llall (er bod y rhai dwi'di siarad iddynt 
yn tueddu tuag at "ymgom" hefyd).  Roeddwn i'n unig yn tynnu sylw at y ffaith 
bod rhai bobl tu allan o'm cylch fi yn fodlon efo fo hefyd.  Ond roedd rhai 
eraill yn anfodlon efo fo - dim cymaint �ynny, ond yn teimlo bod y gair 
ddim yn addas yn y cyd-destun yma.

> Croeso i ti ddefnyddio'r logo. Dewis diddorol o enw. Coch oedd hi i fod...

Diolch!

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]