Re: [gnome-cy] Y Gymdeithas Feddygol



Ar Tue, Nov 11, 2003 at 06:32:59PM +0000, ysgrifennodd Kevin Donnelly:
> - Mae gen i un gair am "bookmark" rwan (diolch byth!), sef "tudnod(au)".  Mi 
> fyddaf yn ceisio newid yr holl ffeiliau KDE i ddefnyddio hwn cyn y "diwrnod 
> cloi" am 3.2 ar 22 Tachwedd.

Dwi'n awgrymu'n gryf ein bod ni'n trafod hyn. Mae GNOME, wedi tipyn o
bendroni, yn defnyddio "Llyfrnod" ("Llyfrnodau"), a Mozilla yn defnyddio
"Nod Tudalen" ("Nodau Tudalen"). Am ychydig roeddwn ni'n meddwl
defnyddio gwahanol dermau, megis "Atgof" ond penderdynwyd fod "Llyfrnod"
yn well gan ei fod e'n fwy tebygol i ddefnyddwyr ei adnabod e.

Yn GNOME, mae'r term yn cael ei ddefnyddio yn Nautilus (y trefnydd
ffeiliau) ac Epiphany (porwr (neu borydd) gwe sy'n seiliedig ar
Mozilla).

Buasai'n neis i'r term gael ei safoni ymysg y gwahanol brosiectau.

> (heb i fi ddweud) "blwch ymgom" am "dialog box" :-)  Roedd rhai eraill yn 
> anfodlon.  Felly nid yw'n amlwg bod y term yma tu hwnt y ffin, o leiaf i rai 
> bobl.

Dydw i o hyd ddim yn siwr ynglyn a hyn. Yn bersonol, dwi'n hoffi "Ymgom"
fel term am "Dialog" - mae defnyddio "Deialog" neu "Dialog" yn teimlo
ychydig yn estron. Ar y llaw arall, dydw i ddim yn siwr os bydd y
defnyddwyr yn gallu ei ddaeall e. Dydw i ddim wedi gwneud penderfyniad
os mae un yn well neu'r llall - mae gan y ddau eu adfanteision.
"Deialog" yw'r term mae GNOME yn defnyddio'n gyffredinol, er mwyn bod yn
gyson, ond dydw i ddim yn erbyn newid pethau os mae cytundeb cyffredinol
fod term arall yn fwy cywir.

> - Roedd pobl yn wir synnu wrth glywed eu bod nhw'n defnyddio meddalwedd 
> rhydd/agored bob diwrnod ar y Wê, a bod Yahoo, Google ac Amazon i gyd yn 
> defnyddio meddalwedd rhydd.  Mae hwn yn bwynt bwysig i'r dyfodol.

Diddorol.

> - Dafydd, gobeithio na fyddech yn meindio, ond nes i ddefnyddio eich logo yn y 
> cyflwyniad.  Mae'r ddraig fach bert yn goch rwan yn lle brown, a dwi'di 
> penderfynu bod hi'n eneth, a bod ei henw yw Tanith.  Tân - tanio - ehangu ...  
> (Tanit(h) was the chief goddess of Carthage, the goddess of light and 
> fertility - her less pleasant side is that in times of national crisis, 
> first-born children were sacrificed to her.)

Croeso i ti ddefnyddio'r logo. Dewis diddorol o enw. Coch oedd hi i fod...

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]