Re: [gnome-cy] Sut mae pethau



Ar Wed, Nov 12, 2003 at 10:05:50PM +0000, ysgrifennodd Rhoslyn Prys:
> Gair i werthfawrogi ymdrechion pawb ar y grwp wrth i Mandrake Linux 9.2 
> ymddangos yn ddiweddar gan cynnwys Gnome 2.4 yn Gymraeg. Mae'n braf iawn 
> fod darn mor sylweddol o system weithredu ar gael yn Gymraeg ac yn 
> gweithio mor dda.

Dyma'r prawf go iawn: bydd y rhan fwyaf o bobl ond yn cael y peth pan
mae e yn eu dosbarthiad nhw, a fe fydden nhw'n eu farnu e yn seiliedig
ar y profiad hwnnw.

> Gyda 9.2 roeddwn yn ceisio gweithio i'r fan lle roedd modd cael gymaint 
> o'r feddalwedd Cymraeg ag sy'n bosibl i weithio o'i fewn. Ar  hyn o bryd 
> mae'n cynnwys meddalwedd cynhenid Mandrake a Gnome. Mae'n bosibl 
> ychwanegu'r pecyn iaith at Gwe-lywiwr 1.4 oddi ar safel Gwe-lywiwr. Yn 
> anffodus tydi Abiword ddim yn cael ei gynnwys. Y gobaith ar gyfer 
> 9.3/10.1 gwanwyn nesaf fydd cynnyddu hynny i gynnwys Gwe-lywiwr cynhenid 
> yn ogystal ag OpenOffice.
> 
> Mater ychwanegol yw cywirdeb a chysondeb cyfieithu. Roeddwn wedi cynnig 
> wrth dafydd i edrych dros rhywfaint o gyfieithiad Gnome - gwirio 
> sillafu/cysoni ond yn anffodus oherwydd pwysau Gwe-lywiwr 
> 1.5/Firebird/Thunderbird ac OpenOffice tydw i heb gadw at fy ngair. 
> Ymddiheuriadau am hynny. ;-(

Dim prys! :)

> Byddai'n dda ond nid yn hanfodol medru cysoni termaiu ar draws 
> feddalwedd a bydda i'n edrych gyda diddordeb ar gynllun yr uned 
> e-Gymraeg ar ran Bwrdd yr Iaith i gasglu a safoni termau technoleg 
> gwybodaeth.

Yn gyffredinol, mae cysondeb yn beth da iawn o safbwynt y defnyddiwr. Yn
y tymor hir, fe ddylai terminoleg safonol ddatblygu a fydd yn unffurf
ymysg amryw feysydd technoleg gwybodaeth. Dwi'n meddwl y bydd hyn yn
digwydd a oes cefnogaeth "swyddogol" ai peidio. Ond bydd e'n gynt ac yn
well os ydym ni'n ymosod y broblem gyda'n gilydd nawr.

> Yn y cyfamser - we-he! mae modd mwynhau profiad Cymraeg llawn iawn . Gw 
> y llun sgrin amgaeedig.

Neis iawn! Diolch i ti am gymryd yr amser i wneud hyn. Ond dwi'n sylwi
nad oes gan dy gyfrifiadur enw (heblaw "localhost"). Beth am roi enw
Cymraeg i dy ymsefydliad Linux newydd?

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]