Re: [gnome-cy] A body



Helo!

Ysgrifennodd kevin dotmon com:
On Dydd Llun 18 Awst 2003 10:54 yb, you wrote:
  
Ges ti hwn Kevin? Roedd dyddiad yr ebost yn 1970. :(
    

Do, Dewi, diolch.  Mae'ch pwyntiau yn dda iawn, ac mae'n ddiddorol bod y 
trafod yn darparu USPs newydd i Linux!

Ond mae LLAWER o waith i'w wneud.  Dwi'n siwr bod pobl yn meddwl fy mod i'n 
arafu ar KGyfieithu, ond fel mater o ffaith dwi'n gwneud ymdrech rwan ar yr 
hysbysu.  Rydych chi a Rhoslyn wedi hen arfer i hwn, dwi'n siwr, ond y bore 
yma roeddwn i'n siarad i rhywun o'r BBC, ac esbonio am benbwrdd Cymraeg yn 
Linux, ac roeddwn i'n gallu clywed ei chwestiwn nesaf cyn iddi hi ei ddweud - 
ond pwy sy'n defnyddio Linux?  Mae angen llawer o FAQs a "case studies", ac 
efallai astudiaeth peilot yn rhywle.
  
Dwi meddwl dylai'r corff neu'r 'project' newydd dargedu un farchnad neu grwp o ddefnyddiwyr i rhoid ei oll ynni i farchnata ac addysgu bobl. Yn fy nhyb i y 'farchnad' fwyaf fase'r sector addysg. Dwi'm yn gwybod am systemau cyfrifiadurol ysgolion Cymru ond ella fasai'n bosib lwyddo un ysgol neu sir ar y tro(?)

Un 'case study' ardderchog i dangos i bobl (neu i gopio) fase Skolelinux http://www.skolelinux.no/index.php.en sef y project i ddarparu meddalwedd Nynorsk a Bokmal i ysgolion Norwy.

Mae rhywfaint o ddatblygiadau di bod yn barod yng Nghymru.Werth son efallai bod prifysgolion fel Bangor yn cynnig Linux (Debian) i'w myfyrwyr yn barod a rhywfaint o feddalwedd Cymraeg fel Netscape. Hefyd Aber yn cynnig "Windows Cymraeg". Mae rhai colegau fel Coleg Menai am gynnig wasanaeth we neu 'portal' e-Ddysgu dwyieithog i'w myfyrwyr o mis Medi ymlaen (http://www.menai.ac.uk/olympus_cy.asp).

Dwi'n siwr y cam nesaf yw i gallu boddi plant ysgolion uwchradd mewn penbwrdd Linux Cymraeg sy'n rhedeg hefyd OOo a Mozilla Cymraeg - rhaglenni alle nhw hefyd defnyddio cartref ar eu PC Windows. :)

Felly mae llawer o fwydro eisiau ei wneud!  Dyna pam dwi'n meddwl bod rhyw 
fath o gorff yn bwysig, ac amserlen o ddatganiadau i'r wasg.  Dwi'n dal i 
feddwl am wneud rhyw fath o gynhadledd.  Ydy CB yn meddwl am wneud diwrnod 
e-gymraeg arall?
Wel dwi meddwl ddyle ni. Ella fase un arall ym mis Tachwedd - blwyddyn i'r un dwythaf - yn syniad da - fel cyfle i dangos faint mae meddalwedd Cymraeg wedi dod yn ei blaen.

Fase Tachwedd yn rhoid amserlen reit dda i ni gallu gwplhau rhywfaint ar y gwaith cyfieithu a phrawf darllen (?) a'u rhyddhau ar gyfer y . fersiynnau nesaf o RedHat a Mandrake(?), OpenOffice1.1. (?)

Hwyl,
Dewi.



--
Llofnod
-----------------------------------------------------------------------------
Gwe-lywiwr Mozilla Cymraeg 
Porwr  | E-Bost | Cyfansoddwr | Llyfr Cyfeiriadau
-----------------------------------------------------------------------------



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]