Re: [gnome-cy] MS Office 2003 i fod ar gael yn Gymraeg



Rhoddodd Kevin rhywbeth allan ar y rhestr yma a rhestr E-Gymraeg.

Tydi'r cymorth i'r Gymraeg ddim cyn gystal ac yn Linux :

http://www.microsoft.com/globaldev/DrIntl/faqs/lipfaq.mspx

<quote>
What is the difference between LIP and MUI?
The main difference is in the level of localization in comparison to MUI packages: LIP packages provide the desktop user with an approximately 80% localized user experience. In addition, LIP doesn't allow users to switch languages. Once a LIP is installed, all users using that machine will have the same User Interface (UI) language
</quote>

So cyn gynted a chi wedi gosod y LIP Cymraeg does dim modd mynd yn ol i Saesneg. O diar.

Mae gallu newid rhwng y ddau iaith, neu o leiaf bod y cyfrifiadur yn gallu cynorthywo mwy nag un iaith yn 'requirement' pwysig iawn.
Bydd rhai pobl ddim eisio aberthu eu pen bwrdd Saesneg cyfarwydd. So er mwyn i ysgolion/cynghorau defnyddio'r ddau iaith mae rhaid i chi brynu ddau cyfrifiadur - ac felly ddau gopi o Windows.

Oce, dwi'n siwr mai nid tric i ddyblu'r nifer o drwyddedi Windows fysa rhaid i ysgolion prynu yw hyn, a mai jiyst oherwydd y ffaith bod adeiladwaith Windows mor sal. Ond mae'n anfantais go fawr yn fy nhyb i ac yn dangos pa mor well yw Linux a meddalwedd rhydd yn gyffredinol.

Dewi.



Ysgrifennodd Rhys Jones:
On Fri, 23 Jan 2004, Dewi Jones wrote:

  
Mae siwr mae rhai ohonno chi wedi gweld hwn yn barod ond jiyst rhag ofn...
    

Diolch. Mae'r BBC eisioes ar drywydd y stori:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3420000/newsid_3421500/3421589.stm
(ond yn ddiddorol, dim ond yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Fe fyddwn i'n tybio 
 fod hon yn stori ddigon pwysig ar gyfer BBC News Online yn Saesneg, o 
 leia)

Hwyrach mai dyma'r amser delfrydol i ryddhau rhywbeth i'r wasg yngly^n a
meddalwedd rhad/rhydd. Beth oedd hanes y datganiad ddraftiwyd fan hyn yn
gynharach yn y mis?
http://pengwyn.linux.org.uk/pipermail/gnome-cy/2004-January/000466.html

Rhys
  
_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy


[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]