Mae siwr mae rhai ohonno chi wedi
gweld hwn yn barod ond jiyst rhag ofn... Dewi. -------- Neges Wreiddiol --------
ENGLISH LANGUAGE VERSION BELOW 22 Ionawr, 2004. DIM EMBARGO Y BWRDD &
MICROSOFT YN CYHOEDDI PARTNERIAETH Heddiw, fe gyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bartneriaeth newydd â Microsoft a fydd yn cynhyrchu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer Microsoft Windows XP a Microsoft Office System. Mae’r Bwrdd wedi bod yn gweithio â Microsoft ers mis Medi y llynedd gan gynllunio gweithredu Windows XP & Office 2003 yn Gymraeg, a hynny drwy ddefnyddio technoleg Pecyn Rhyngwyneb Iaith (LIP) a fydd yn sicrhau bod y diweddariadau hyn i gynnyrch Microsoft ar gael yn rhad ac am ddim i siaradwyr Cymraeg yn ystod 2004. Mae’r Bwrdd a Microsoft ill dau yn awyddus i wneud pethau’n haws i siaradwyr Cymraeg fyw, gweithio a gwneud busnes yn eu dewis iaith. Microsoft sy’n cyllido’r cyfieithiad hwn ac mae’n cydweithio â’r Bwrdd er mwyn galluogi siaradwyr Cymraeg i gael y Pecynnau Rhyngwyneb Iaith hyn. Meddai Cadeirydd y Bwrdd Rhodri Williams: “Rydym wrth ein bodd o fedru cydweithio’n agos â Microsoft ar brosiect mor gyffrous. Dyma gam hynod arwyddocaol ymlaen ar gyfer y Gymraeg, ym myd addysg, yn y gweithle a’r tu hwnt. A thechnoleg gwybodaeth bellach yn rhan mor annatod o fywyd pawb, mae’r hwb hwn yn hanfodol bwysig ar gyfer datblygiad y Gymraeg. Rydym yn rhoi croeso cynnes i’r symudiad lleol hwn gan Microsoft ac edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithredu â nhw dros y blynyddoedd a ddaw er mwyn symud pethau ymlaen.” Nododd Matt Lambert, Cyfarwyddwr Materion Llywodraethol Microsoft EMEA: “Mae’r prosiect pwysig hwn yn dod â’n sefydliadau ynghyd er budd siaradwyr Cymraeg. Ein gobaith yw y bydd y Pecyn Rhyngwyneb Iaith yn hwyluso cyfrifiaduro ar gyfer busnesau ac unigolion yng Nghymru, ac y bydd yn gymorth i hyrwyddo’r Gymraeg.” - Diwedd - Nodiadau i olygyddion 1. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa’r Wasg ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg ar +44 (0)29 2087 8000, ffacs +44 (0)29 2087 8001, e-bost cyscyhoedd bwrdd-yr-iaith org uk 2. Mae’r Gymraeg yn un o nifer o ieithoedd a gynhwysir yn y rhaglen LIP. Am ragor o wybodaeth ar Becyn Rhyngwyneb Iaith Windows XP Professional, gweler http://www.microsoft.com/globaldev/DrIntl/faqs/lipfaq.mspx 3. Am wybodaeth gefndirol ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ystadegau ieithyddol a datblygiad y Gymraeg dros y degawdau diweddar, gweler ‘ystadegau’ yn adran gyhoeddiadau safle gwe y Bwrdd. 4. Bydd lleoleiddio meddalwedd yn rhan ganolog o Strategaeth y Bwrdd ar gyfer y Gymraeg a TGCh, a gyflwynir i ymgynghoriad cyhoeddus eang yn nes ymlaen eleni. Mae’r Strategaeth yn un o brif ofynion Iaith Pawb, dogfen strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gymraeg. 5. Mae’r Bwrdd wedi cynyddu ei gyfraniad i faes TG
dros y blynyddoedd diweddar. Mae datblygiadau’n cynnwys:
o Prosiect i gefnogi dosbarthu fersiwn dwyieithog
OpenOffice (Canolfan Mercator, Prifysgol Cymru, Aberystwyth)
Ynglŷn â Microsoft Sefydlwyd Microsoft (Nasdaq “MSFT”) yn 1975. Dyma’r arweinydd byd eang mewn meddalwedd, gwasanaethau a thechnoleg Rhyngrwyd ar gyfer cyfrifiaduro personol a busnes. Mae’r cwmni’n cynnig amrediad eang o gynnyrch a gwasanaethau â’r nod o ymbweru pobl drwy feddalwedd wych – ar unrhyw adeg, mewn unrhyw le, ac ar unrhyw ddyfais. Cysylltiadau Scott Thomson Ffôn: 0207 344 1263 E-bost: scott thomson edelman com Neu, Canolfan y Wasg, Microsoft Ffôn: 0870 20 77 377 (y wasg yn unig) 22 January, 2004. NO EMBARGO WELSH LANGUAGE BOARD & MICROSOFT ANNOUNCE PARTNERSHIP TO PROVIDE SOFTWARE FOR WELSH SPEAKERS The Welsh Language Board (WLB) today formally announced a new partnership with Microsoft to produce Welsh language interfaces for Microsoft Windows XP and Microsoft Office System. The Board has been working with Microsoft since September last year planning the implementation of Windows XP & Office 2003 in Welsh using new Language Interface Pack (LIP) technology which will deliver these product upgrades free of charge to Welsh speakers during 2004. Both the Board and Microsoft are keen to make it easier for Welsh speakers to live, work and do business in their chosen language. Microsoft is funding this translation and working with the Board to enable Welsh speakers to obtain these Language Interface Packs. WLB Chair Rhodri Williams said: “We’re delighted to be working closely with Microsoft on such an exciting project. This is an enormously significant step forward for the Welsh language, in education, in the workplace and beyond. With information technology such an integral part of everyone’s life, this advance is vitally important for the development of the Welsh language. We warmly welcome this local move by Microsoft and look forward very much to working with them to move things forward over the coming years.” Matt Lambert, Director of Government Affairs for Microsoft EMEA, commented: “This important project brings together our organisations for the benefit of Welsh speakers. We hope the Language Interface Pack will help to make computing easier for both Welsh businesses and individuals, and will help to promote the Welsh language.” - Ends - Notes for editors 6. For more information contact the Welsh Language Board Press Office on +44 (0)29 2087 8000, fax +44 (0)29 2087 8001, e-mail news welsh-language-board org uk 7. Welsh is one of a number of languages included in the LIP programme. For more information on Windows XP Professional Language Interface Pack, see http://www.microsoft.com/globaldev/DrIntl/faqs/lipfaq.mspx 8. For background information on the Welsh Language Board, language statistics and the development of Welsh over the last decades see ‘statistics’ in the publications section of the Board’s website. 9. Localisation of software will be a central part of the Board’s Strategy for the Welsh Language and ICT, which will be issued for wide public consultation later this year. The Strategy is one of the main stipulations of Iaith Pawb, the Welsh Assembly Government’s strategic document for the Welsh Language. 10. The Welsh Language Board has significantly increased its contribution to the field of ICT in recent year. Developments include: o A Welsh Language spellchecker available free of
charge for Microsoft Office XP
o A project to support the distribution of bilingual version of OpenOffice (Mercator Centre, University of Wales, Aberystwyth) o The Board also uses translation memory software and will shortly announce details of a large research project into machine translation and the Welsh Language. About Microsoft Founded in 1975, Microsoft (Nasdaq “MSFT”) is the worldwide leader in software, services and Internet technologies for personal and business computing. The company offers a wide range of products and services designed to empower people through great software — any time, any place and on any device. Contacts Scott Thomson Tel: 0207 344 1263 Or, Microsoft Press Centre Tel: 0870 20 77 377 (press only) |
_______________________________________________ gnome-cy mailing list gnome-cy pengwyn linux org uk http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy