Re: [gnome-cy] MS Office 2003 i fod ar gael yn Gymraeg



Hi Rhys

On Friday 23 January 2004 10:08 am, Rhys Jones wrote:
> Hwyrach mai dyma'r amser delfrydol i ryddhau rhywbeth i'r wasg yngly^n a
> meddalwedd rhad/rhydd. Beth oedd hanes y datganiad ddraftiwyd fan hyn yn
> gynharach yn y mis?

Aeth allan neithiwr a'r bore yma - mae'r fersiwn terfynnol ar y rhestr rwan.  
Nid oes gen i'r "cysylltiadau" yn y cyfryngau sydd gan BIG (eto), felly dwi'm 
yn siwr os byddant yn brathu ar y pwnc.  Hefyd, wrth gwrs, mae'n edrych tipyn 
fel "grawnwin sur"!  (Marciau llawn i BIG - wnaethon nhw ryddhau'r datganiad 
'mond dau ddiwrnod ar ol i fi anfon y drafft iddynt er wybodaeth ...)

Dwi'n gobeithio cael ymateb gwell o'r wasg dechnegol.  Mae'r newyddion o 
Newham yn ddiddorol:
http://www.theregister.co.uk/content/4/35063.html
felly efallai mae'r pwnc o ddiddordeb.  Roedd un o'r bois ar KDE yn f'atgoffa 
bod rhai blynyddoedd yn ol, roedd MS eisiau cymorthdaliadau o wledydd efo  
"niche market languages" (e.e. Islandeg).

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]