Re: [gnome-cy] termau



> Mae'n well gen i gludfwrdd (Rhoslyn oedd yn dechrau defnyddio hwn, dwi'n 
> meddwl), ac ymgom, o achos maent yn dweud yr un peth â'r rhai yn y
Termiadur, 

Mae 'glud' yn sylwedd gweddol barhaol a nid dyna pwrpas y clipboard
ond 'bocs' i gadw darnau o destun neu lun dros dro. Clipfwrdd yw'r
gair sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn barod. Os oedd rhaid
cyfieithu gair o'r cychwyn yn nghyd-destun Cyfrifadureg, fase rhaid
meddwl am air sy'n golygu 'storfa dros dro er mwyn copio data rhwng
rhaglenni' ond yn lwcus does dim rhaid i ni wastraffu amser ar hynny.

> ond yn defnyddio gwreiddiau Cymraeg.  Mae "ymgom" yn cael ei ddefnyddio mewn 
> testunau Eisteddfod ac ati,

Sgwrs yw ymgom. Ond nid sgwrs yw bocsys deialog, ond un neu fwy o
gwestiynau gyda ateb penodol. Dyw'r gair saesneg ddim wedi cael ei
ddefnyddio mewn ffordd hollol gywir ond dwi ddim yn credu fod e'n
gwneud synnwyr defnyddio term anghyfarwydd i ddisgrifio rhywbeth lle
mae cyfieithiad hollol addas yn cael ei ddefnyddio bob dydd yn y byd
'go iawn'.

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]