Re: [gnome-cy] Sut mae pethau



medda Dafydd Harries:

> Ar Tue, Nov 11, 2003 at 06:32:59PM +0000, ysgrifennodd Kevin Donnelly:
>
>>- Mae gen i un gair am "bookmark" rwan (diolch byth!), sef "tudnod(au)".

> Dwi'n awgrymu'n gryf ein bod ni'n trafod hyn. Mae GNOME, wedi tipyn o
> bendroni, yn defnyddio "Llyfrnod" ("Llyfrnodau"), a Mozilla yn defnyddio
> "Nod Tudalen" ("Nodau Tudalen"). Am ychydig roeddwn ni'n meddwl
> defnyddio gwahanol dermau, megis "Atgof" ond penderdynwyd fod "Llyfrnod"
> yn well gan ei fod e'n fwy tebygol i ddefnyddwyr ei adnabod e.

Rwy'n cytuno y dylid trafod hyn, a rwy'n dadlau yn erbyn 'nod
tudalen' fel y defnyddir yn Mozilla, gan ei fod yn enw ar un o'r
dewislenni, a mae'n gwneud iddo edrych fel dau ddewislen arwahan.
Felly beth bynnag fydd y dewis, rwy'n dadlau dros gael term uneiriog
(os oes y fath air).

--
Illtud Daniel                                 illtud daniel llgc org uk
Uwch Ddadansoddwr Systemau                       Senior Systems Analyst
Llyfrgell Genedlaethol Cymru                  National Library of Wales
Yn siarad drosof fy hun, nid LlGC   -  Speaking personally, not for NLW


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]