[gnome-cy] Sut mae pethau



Gair i werthfawrogi ymdrechion pawb ar y grwp wrth i Mandrake Linux 9.2 ymddangos yn ddiweddar gan cynnwys Gnome 2.4 yn Gymraeg. Mae'n braf iawn fod darn mor sylweddol o system weithredu ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio mor dda.

Gyda 9.2 roeddwn yn ceisio gweithio i'r fan lle roedd modd cael gymaint o'r feddalwedd Cymraeg ag sy'n bosibl i weithio o'i fewn. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys meddalwedd cynhenid Mandrake a Gnome. Mae'n bosibl ychwanegu'r pecyn iaith at Gwe-lywiwr 1.4 oddi ar safel Gwe-lywiwr. Yn anffodus tydi Abiword ddim yn cael ei gynnwys. Y gobaith ar gyfer 9.3/10.1 gwanwyn nesaf fydd cynnyddu hynny i gynnwys Gwe-lywiwr cynhenid yn ogystal ag OpenOffice.

Mae Dafydd yn iawn, mae angen cadw ati i weithio ar y cyfieithiad yn gyson a lle mae modd ychwanegu at y swm o raglenni sy'n cael eu darparu.

Mater ychwanegol yw cywirdeb a chysondeb cyfieithu. Roeddwn wedi cynnig wrth dafydd i edrych dros rhywfaint o gyfieithiad Gnome - gwirio sillafu/cysoni ond yn anffodus oherwydd pwysau Gwe-lywiwr 1.5/Firebird/Thunderbird ac OpenOffice tydw i heb gadw at fy ngair. Ymddiheuriadau am hynny. ;-(

Byddai'n dda ond nid yn hanfodol medru cysoni termaiu ar draws feddalwedd a bydda i'n edrych gyda diddordeb ar gynllun yr uned e-Gymraeg ar ran Bwrdd yr Iaith i gasglu a safoni termau technoleg gwybodaeth.

Yn y cyfamser - we-he! mae modd mwynhau profiad Cymraeg llawn iawn . Gw y llun sgrin amgaeedig.

Rhos

PNG image

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy


[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]