Ble ydych chi?



Helo pawb,
Yn gyntaf, hoffwn i gyflwyno fy hun.  Rwy'n dod o Gastell Nedd ger
Abertawe ac rwy'n astudio Cymraeg yn y coleg Castell Nedd Port Talbot.
Ddoe, (wel... echdoe...) rydw i wedi cael fy ngraddau lefel AS ac yn y
Gymraeg mae gradd A 'da fi, eleni bydda i'n parhau astudio Cymraeg a
gobeithio symud ymlaen i astudio BA Cymraeg mewn prifysgol Bangor yn
Medi 2011.  

Yn ail, rydw i wedi sylwi bod y tîm hwn wedi anweithgar yn ddiweddar.
Hoffwn i helpu gyda chyfieithiadau GNOME ond i fod yn onest, rydw i'n
siarad Cymraeg fel ail iaith felly mae rhaid imi cael help i
brawf-ddarllen y cyfieithiadau (fel pob cyfieithwyr).  Bydd rhaid imi
gael help i commit fy nghyfieithiadau i'r git hefyd.

Yn olaf,  does dim rhaglenni GNOME wedi cael eu cyfieithu ers dechrau
2010.  Rydw i wedi darllen yr e-bost o Awst 2009 gan Iestyn Pryce sydd
yn eisiau atgofodi y tîm gnome-cy ond nid oedd ymateb!  Os oes modd,
hoffwn glywed yn ôl o bawb sydd yn tanysgrifio i gnome-cy am yr e-bost
hyn.

Cofion gorau,
Chris
-- 
Christopher Swift <christopher swift linux com>




[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]