[gnome-cy] statws GNOME 2.5



Heia pawb. Amser i fi ddweud ychydyg ynghylch cyflwr pethau, dwi'n
meddwl.

Y rhif holl-bwysig: %84.65. Dyma'r canran o linynau GNOME 2.5 sydd wedi
eu cyfieithu. Wrth gwrs, y nod yw codi hyn at 100% erbyn bo GNOME 2.6 yn
cyrraedd.

Mae'r rhew llinynau wedi cyrraedd! Fe ddylai hyn olygu nad yw llinynau
yn newid llawer. Yn anffodus, fodd bynnag, mae tipyn o newidiadau
llinynau wedi digydd fodd bynnag, gan bo'r datblygwyr wedi bod yn araf
yn gorffen newid llinynau.

 - developer-libs
   (http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/developer-libs/index.html)

   Mae hyn bron yn gyflawn. Rydw i wedi rhoi gnome-vfs yn CVS heddi,
   felly dim ond ychydig o linellau sydd ar ôl yma. (Dwi'n cyfri 96.)

 - desktop
   (http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/desktop/index.html)

   Mae tipyn o waith i'w wneud yma o hyd. Yn anffodus, mae ychydig yn
   anodd gweld beth yw cyflwr pethau ar hyn o bryd, gan bo nifer o
   ddiweddariadau dydw i heb eu rhoi nhw yn CVS. Y modulau sydd angen y
   mwya' o sylw ar hyn o bryd yw nautilus, gnomemeeting, yelp ac
   epiphany.

   - nautilus
     Rydw i wedi derbyn diweddariad gan Bryn. Y broblem yw, fe wnes i
     tipyn o newidiadau i'r ffeil on fe ddiweddarodd Bryn y cyfieithiad
     ar fersiwn cyn i fi wneud y newidiadau. Felly rydw i wedi bod yn
     mynd trwy fy fersiwn i a ferswin Bryn a chyfuno'r ddau. Mae hyn
     bron wedi gorffen.

   - gnomemeeting ac epiphany
     Mae Rhys wedi danfon clytiau ar gyfer y rhain ata i. Fe wna i
     ganolbwyntio ar y rhain ar ôl Nautilus.

   - yelp
     Mae Rhys wedi hawlio hyn eisioes. :)

   Yn ogystal a'r rhain, mae yna ddau fodiwl yn "desktop" nad ydynt wedi
   cael eu cyfieithu o gwbl eto: gnome-keyring a gnome-netstatus. (Does
   dim cyfieithiad gan Dasher yn CVS chwaith, on mae Telsa wedi anfon
   cyfieithiad ata i.)

 - modylau Freedesktop
   (http://www.iro.umontreal.ca/translation/HTML/team-cy.html)

   Does neb wedi cyfieithu dim o'r rhain eto! Y tri modiwl sydd *angen*
   cyfieithu ar gyfer GNOME 2.6 yw scrollkeeper (246 neges),
   xfree86_xkb_xml (362 neges) a shared-mime-info (354 neges).

Fe ddylai pawb fod yn gyfarwydd a wici Cymru ar Linux. Mae yna ddau
dudalen pwysig ar gyfer Gnome-CY ar hyn o bryd:

 - http://cymruarlinux.org.uk/wici/index.cgi?ModylauGnomeCY

   Dyma rhestr o fodylau CVS Gnome-CY. Os ydych eisiau gweithio ar
   fodiwl, ewch yma *yn gyntaf* a rhoi eich enw o dan y modiwl er mwyn
   ei hawlio. Er enghraifft:

	** eog
	*** wedi ei hawlio gan [daf]

   Wrth gwrs, peidiwch a hawlio modiwl sydd wedi ei hawlio gan rhywun
   arall eisioes. Yna, dylwch gael fersiwn diweddara'r modiwn o CVS.
   Mae'r rhain ar gael o safle we'r GTP, e.e.
   <http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/PO/eog.HEAD.cy.po>.
   Yn ychwanegol, mae'r ffeiliau yma wedi ei diweddaru yn erbyn y ffeil
   .pot diweddaraf.

   Os ydych chi'n defnyddio CVS, rydw i'n argymell yn gryf eich bod
   chi'n gwneud "cvs update; cd po/; intltool-update po" *cyn* dechrau
   golygu'r ffeil. Dylai hyn gael yr un canlyniad a chyrchu'r ffeil o'r
   tudalen gwe priodol.

 - http://cymruarlinux.org.uk/wici/index.cgi?AngenRhoiYnCVS

   Dyma rhestr o newidiadau mae pobl wedi eu gwneud on nad ydw i wedi eu
   rhoi yn CVS. Dwi'n gobeithio y bydd y rhestr yn dechrau mynd yn llai
   yn y dyfodol!

Mae'n werth rhoi cip golwg ar <http://gnome.org/start/2.5/>. Rhai
dyddiadau pwysig o nawr ymlaen:

2004/02/23: beta 1
 - Dydw i ddim yn siwr os bydd hyn yn digwydd ar amser (fory).
2004/03/08: beta 2
 - Dwi'n gobeithio cael y rhan fwyaf o bethau wedi gorffen erbyn hyn
   (95% ?), er mwyn i ni allu profi'r cyfieithiad yn rhesymol.
2004/03/15: release candidate 1
 - Basai'n neis cael popeth wedi goffen erbyn hyn. Sialens i rhywun:
   beth yw "release candidate" yn Gymraeg?
2004/03/22: 2.6.0 terfynnol
 - Dyma'r dyddiad olaf ond un. Fodd bynnag, rhaid i ni anelu orffen
   popeth *cyn* hyn er mwyn sicrhau y bydd y cyfieithiadau'n cyrraedd y
   fersiwn terfynnol.

Dwi'n meddwl mae'r modulau freedesktop rydw i'n poeni amdanynt fwya' ar
hyn o bryd. Hynny, a'r ffaith mod i tu ôl cyhyd ar rhoi pethau yn CVS.

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]