[gnome-cy] Creu Cymdeithas meddalwedd Cymraeg



Pnawn dydd Iau diwethaf cafwyd cyfarfod yng nghaffi Safeways Bangor i drafod codi proffil meddalwedd Cymraeg.

Yn bresennol oedd Dafydd Chan, Dewi Jones, Kevin Donnelly a Rhoslyn Prys

Wedi trafodaeth fywiog cytunwyd i ymgynghori gyda'n ffrindiau yn y byd meddalwedd Cymraeg gyda'r nod o gasglu barn ar :

1. Sefydlu Cymdeithas i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg
2. Creu CD neu rhywbeth tebyg fel ffordd o gael disg demo Linux Cymraeg

a. Teimlwyd bod angen sefydlu Cymdeithas ac i gyfarfod yn achlysurol fel ffordd o gynyddu proffil meddalwedd Cymraeg ac i godi arian er mwyn creu gwybodaeth cyhoeddusrwydd a hyfforddiant. Mae'n bosibl cael arian ar gyfer cyrff gwirfoddol lleol, felly gall fod posibilrwydd o greu canghenau lleol.

b. Cynnigwyd ein bod yn trefnu cyfarfod cychwynnol yn Aberystwyth/Bangor neu Gaerdydd er mwyn cyfarfod, cynllunio a datblygu strategaeth.

Lle fyddai'r man mwyaf hwylus i'r mwyafrif? - Aberytwyth, Bangor neu Gaerdydd?

Pryd fyddai mwyaf cyfleus - efallai ein bod yn edrych ar rhyw ddydd Sadwrn ym mis Mawrth

2. Creu CD byw

Cytunodd Dewi Kevin i edrych ar y posibiliadau o greu CD byw tebyg i Knoppix neu PCLinuxOS. Byddai'r ddau yn falch o gael trafodaeth ar y ffordd orau ymlaen gyda'r rhain - neu unrhyw ffordd arall i greu CDLinux Cymraeg byw.

Byddwn yn ddiolchgar am ymateb gan gymaint ag y bo modd i hyn

Diolch

Rhos



_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]