[gnome-cy] Sgwrs ar feddalwedd rhydd Cymraeg



Annwyl aelodau rhestrau gnome-cy a cy,

Tybed a oes rhywun ar y rhestr yma fyddai yn fodlon dod i roi sgwrs
fer i Gymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd am feddalwedd Cymraeg yn
arbenning meddalwedd agored?

Byddai angen sgwrs rhyw 40 munud o hyd, gellir defnyddio taflunydd
cyfrifiadur (ac mae offer mwy hen ffash da ni hefyd) i rhyw 20-30 o
bobl. Fel arfer rydym yn cwrdd ar drydydd dydd Llun y mis ym mis
Hydref, Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr, Chwefror, Mawrth a Mai ac rydym
wrthi yn paratoi rhaglen 2004-2005 ar hyn o bryd - felly digon o
rybydd!

Ceir mwy o wybodaeth am y gymdeithas ar ein safle we

http://www.star.bris.ac.uk/rahm/cwcc/

Diolch yn fawr,

Rhys Morris
(un o ysgrifenyddion y gymdeithas)


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]