[gnome-cy] Datganiad i'r wasg (newydd ei ryddhau)



Helo,

Er gwybodaeth, rwy' newydd anfon y datganiad hwn i amryw o gyfryngau
'dyddiol' Cymraeg, gan gynnwys y BBC a'r Western Mail/Daily Post.
Cawn weld a fydd unrhyw ymateb!

Hwyl, a diolch i bawb gynorthwyodd wrth lunio'r datganiad.

Rhys

----- Neges wreiddiol -----

Date: Wed, 7 Apr 2004 16:01:25 +0100
From: Rhys Jones <rhys sucs org>
Subject: PRESS RELEASE: A historic day for Welsh-speaking computer users

(The English version of this release is below the Welsh one)

DATGANIAD I'R WASG

I'W RYDDHAU'N SYTH

> Cyfrifiadur Cymraeg ei iaith - ar gael heddiw - yn rhydd ac am ddim!

Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i gyfrifiaduraeth yn y Gymraeg,
gyda chyhoeddi meddalwedd rhydd ac am ddim sydd ar gael yn gyfangwbl
trwy gyfrwng yr iaith.

O hyn ymlaen, ym mhob un fersiwn o Linux, y system reoli rhydd ac am
ddim sy'n tyfu'n anhygoel yn ei boblogrwydd, fe fydd pawb yn medru
Agor, Cadw ac Argraffu (Open, Save, Print) trwy gyfrwng y Gymraeg -
a gwneud llawer mwy na hynny yn yr iaith hefyd.

Mae'r gwaith o ddatblygu penbyrddau (desktops) Cymraeg ar gyfer Linux
yn ffrwyth blwyddyn a mwy o waith gan ddwsinau o wirfoddolwyr di-dâl.
Mae hyn yn rhoi i ni, am y tro cyntaf erioed ar y PC, modd i
ddefnyddio dewis eang o feddalwedd yn y Gymraeg, yn cynnwys:

    * Porwyr gwe
    * Rhaglenni ebost
    * Rhaglenni sy'n dangos ac yn golygu lluniau
    * Rhaglenni prosesu geiriau
    * Rhaglenni cynadledda fideo 

Dyma'r union fath o raglenni sydd wir eu hangen ar ddefnyddwyr
dwyieithog, mewn cartrefi a swyddfeydd. Gellwch hyd yn oed chwarae gêm
o gardiau yn erbyn y cyfrifiadur trwy gyfrwng yr heniaith!

Yn ogystal â hyn, os am ddefnyddio Linux mewn iaith wahanol, fel
Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu hyd yn oed Swlw, gellir
gwneud hynny ar amrantiad. Mae'r cyfrifiadur Linux Cymraeg yn un gwir
amlieithog, sy'n hanfodol lle mae Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn
cydweithio yn y gweithle dwyieithog.

A'r newyddion gorau oll yw pris Linux. Gall unrhyw un ei lawrlwytho
am ddim o'r Rhyngrwyd, neu ei brynu ar set o grynoddisgiau sydd fel
arfer yn costio llai na deg punt.

Ond pam fod cynifer wedi dod at ei gilydd i greu Linux Cymraeg?
Ymddengys fod gan bawb eu gwahanol resymau. Bu Peter Richards, er
enghraifft, yn chwilio am feddalwedd Cymraeg ar gyfer ei gyfrifiadur
ers dechrau'r nawdegau, ond heb fawr o lwyddiant. "Roedd hi'n boen
sgrifennu llythyrau yn y Gymraeg ar brosesydd geiriau Saesneg oedd
yn gwrthod geiriau Cymraeg", meddai. "Ond yn dilyn erthygl bapur
newydd, dyma ddod ar draws y criw oedd yn cyfieithu Linux i'r
Gymraeg, ac ymuno â nhw. Mae Linux yn gweithio i mi heddiw, felly
Linux amdani."

Mae Peter Bradley, cyfieithydd arall, yn pwysleisio annibynniaeth
y prosiect. "Rwy'n teimlo'n reit falch", meddai, "ein bod ni'n barod
i weithio droston ni'n hunain a chreu dyfodol ein hunain i'n hiaith
ni'n hunain".

Mae'r rhai sy'n cyd-lunio'r prosiectau i greu penbyrddau Linux
Cymraeg wedi croesawu'r newydd yn wresog. Medd Dafydd Harries,
sefydlydd y wefan http://www.cymruarlinux.org.uk/, "mae hyn yn
destament at bwer gwirfoddolwyr i greu meddalwedd sy'n gweithio ar
eu cyfer nhw".

Croesawir y newydd hefyd gan gyrff cyhoeddus. Yn ôl y Dr Jeremy
Evas o Dîm Datblygu Strategol Bwrdd yr Iaith Gymraeg, "Mae'n
galonogol tu hwnt fod cynifer o Gymry wedi dod ynghyd i greu Linux
Cymraeg. Rydym ni fel Bwrdd yn croesawu'n fawr eu cyfraniad i
dechnoleg gwybodaeth trwy gyfrwng yr iaith."

Bydd posib i ni flasu'r penbyrddau newydd ym mhob un fersiwn o
Linux, ac fe fyddant hefyd ar gael ar Cymrux, CD arbennig fydd yn
cael ei lawnsio yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Fe fydd Cymrux yn eich
galluogi i brofi Linux ar eich cyfrifiadur heb ei osod yn barhaol.
Mae lluniau rhagflas o Cymrux ar gael ar http://www.kdonnelly.com/cymrux/ .

Yn sicr, mae'r rhain yn ddyddiau cynhyrfus a chyffrous i ni,
ddefnyddwyr Cymraeg technoleg gwybodaeth.

[DIWEDD Y DATGANIAD]

Nodiadau i olygyddion:

1. Mae meddalwedd rhydd ac am ddim ("free software") ar gael heb
gost, neu am gost bach iawn. Os oes rhaid i ddefnyddwyr dalu amdano,
yr unig gost yw pris cynhyrchu a dosbarthu CDau - ychydig bunnoedd
fel arfer. Mae meddalwedd rhad a rhydd yn rhoi rhyddid i ddefnyddwyr
newid y côd mewnol, a chreu cyfieithiadau newydd, os ydynt am wneud
hynny. Os am fwy o wybodaeth yn Saesneg ynghylch meddalwedd rhad a
rhydd, gweler http://www.gnu.org/philosophy/ ac
http://www.opensource.org/.

2. System sy'n galluogi i ddefnyddwyr reoli cyfrifiaduron yw Linux.
Fe ddechreuodd y prosiect Linux yn 1991 fel gwaith un myfyriwr, sef
Linus Torvalds o'r Ffindir. Erbyn hyn mae miloedd o bobl ar draws y
byd wedi cyfrannu at y prosiect. Linux yw'r system reoli sy'n tyfu'n
gyflymaf yn y byd, yn ôl cylchgrawn Business Week. Mae cwmni
rhyngwladol Siemens yn rhagweld y bydd gan Linux 20% o siâr o'r
farchnad gyfrifiadurol erbyn 2008. Meddalwedd rhydd ac am ddim yw Linux.

3. Mae cyfrifiaduron yn cyfathrebu â defnyddwyr trwy ddangos ffenestri,
eiconau a thestunau ar y sgrin. Y darn o feddalwedd sy'n galluogi hyn
yw'r 'system benbwrdd' (desktop system). Y ddwy system penbwrdd mwyaf
poblogaidd ar gyfer Linux yw KDE a GNOME. Fe ddatblygwyd y ddau, yn
wreiddiol, tua diwedd y 90au. Fel Linux ei hun, mae KDE a GNOME yn
ganlyniad miliynau o oriau o amser wedi'u rhoi yn wirfoddol i raglennu,
i ddogfennu, ac i gyfieithu. Mae pob rhan hanfodol o GNOME a KDE
wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

4. Mae mwy o wybodaeth ar gael oddi wrth aelodau canlynol y prosiectau
penbyrddau Cymraeg:

    * Dafydd Harries (ebost: daf muse 19inch net, ffôn: 01xxx xxxxxx)
    * Rhys James Jones (ebost: rhys sucs org, ffôn symudol: 07830 xxxxxx)
    * Telsa Gwynne (ebost: hobbit aloss ukuu org uk) 

PRESS RELEASE

FOR IMMEDIATE RELEASE

> Welsh language computer software - available today - for free!

Today is a historic day for Welsh-language computing, with the release
of free software available wholly through the medium of Welsh.

 From now on, in every version of Linux, the free, incredibly
fast-growing operating system, everyone will be able to choose to
Agor, Cadw or Argraffu their files (Open, Save, Print) - and do far
more than that in Welsh too.

Welsh Linux desktops are the fruit of more than a year's development
work by unpaid volunteers. This gives Welsh-speakers, for the first
time ever on the PC, the means to use a wide range of Welsh-language
software, including:

    * Web browsers
    * Email clients
    * Image editing and display programs
    * Word processing programs
    * Videoconferencing programs 

These are the programs which are desperately needed by bilingual users
in their homes and offices. It's even possible to play a game of cards
against the computer in Welsh!

In addition to this, Linux can be used in a different language
instantly - be that for instance English, French, German, Spanish or
even Zulu. The Welsh Linux PC is truly multilingual - this is essential
as Welsh speakers and non-Welsh speakers work together in the bilingual
workplace.

And the best news of all is the cost of Linux. It can be downloaded
freely by anyone from the Internet, or bought on a set of CDs which
typically cost less than ten pounds.

But why have so many Welsh speakers come together to create Welsh
Linux? It appears everyone has their different reasons. Peter Richards,
for instance, has been searching for Welsh-language software for his
computer since the beginning of the 1990s, but with little success.
"It was a pain to write letters in Welsh on an English word processor
which rejected Welsh words. But following a newspaper article, I came
across the team translating Linux to Welsh, and joined them. Linux
works for me today, so Linux it is."

Peter Bradley, another translator, emphasises the project's
independence. "I am pleased", he said, "that we are ready to do our
own work to create our own future for our own language."

Those co-ordinating the projects to create Welsh Linux desktops have
warmly welcomed today's news. Dafydd Harries of the Wales on Linux
(http://www.cymruarlinux.org.uk/) website says, "this is a testament
to the power of volunteers to create software that works for them."

The news is also welcomed by public bodies. According to Dr Jeremy
Evas from the Welsh Language Board's Strategic Development Team,
"It is immensely encouraging that so many Welsh-speakers have
collaborated to create Welsh Linux. We as a Board greatly welcome
their contribution to Welsh-language information technology."

These new desktops will be available in every version of Linux
released from today onwards, and will also be included in Cymrux,
a special CD to be launched at this year's Urdd Youth Eisteddfod
at the end of May. Cymrux will allow Welsh-speakers to experience
Welsh Linux on their PCs without having to install it permanently.
Preview pictures of Cymrux are available at
http://www.kdonnelly.com/cymrux/ .

[RELEASE ENDS]

Notes for editors:

1. Free software is available for little or no cost. Should users
have to pay for it, the only cost is in CD production and
distribution - typically a few pounds. Free software can be copied
and distributed freely without breaking copyright. It gives users
freedom to change its internal code, and create new translations,
should they desire. For more information on free software, please
see http://www.gnu.org/philosophy/ and http://www.opensource.org/.

2. Linux is an operating system for computers. The Linux project
was started in 1991 as the work of one student - Linus Torvalds from
Finland. By now, thousands of people throughout the world have given
their time and expertise towards the project. Linux is the
fastest-growing operating system in the world, according to Business
World magazine. International IT firm Siemens predicts that Linux
will have a 20% market share by 2008. Linux is free software.

3. Computers usually communicate with users by showing windows, icons
and text on screens. The piece of software which enables this to happen
is the desktop system. The two most popular desktop systems for Linux
are KDE and GNOME. Both were originally developed in the mid to late
1990s. As with Linux, KDE and GNOME are the fruit of millions of man-hours
of voluntary work in programming, documenting and translating.
Every essential component of GNOME and KDE has been translated into Welsh.

4. More information is available from the following members of the
Linux desktop projects:

    * Dafydd Harries (email: daf muse 19inch net, phone: 01xxx xxxxxx)
    * Rhys James Jones (email: rhys sucs org, mobile: 07830 xxxxxx)
    * Telsa Gwynne (email: hobbit aloss ukuu org uk) 


----- Diwedd -----

-- 
http://www.wibsite.com/wiblog/backburner/   http://www.sucs.org/~rhys/

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]