Re: [gnome-cy] ACCAC letter



On Friday 09 May 2003 9:51 am, Dewi Jones wrote:
> Newydd ffeindio bod Y Termiadur ar gael ar-lein yn barod gan Canolfan
> Bedwyr o:
> http://www.melin.bangor.ac.uk/default.asp?P=2&s=opt
> Mae rhan fwyaf o dermau defnyddiol am gyfrifiadura sydd yn y Termiadur
> yn Omnivore yn barod (?) drwy mewnforio cyfieithiadau Mozilla ac
> OpenOffice (gan fod Rhoslyn wedi  bod yn defnyddio'r Termiadur)

Ond y broblem yw ei fod ar gael dim ond drwy'r rhyngwyneb yna, ac nid oedd yn 
bosib cysylltu i'r safle yna oddiwrth KGyfieithu (a oedd y rheswm am 
Hollysydd).  

Felly dwi'n meddwl buasai'n well cael fersiwn digidol o'r tarddiad, i ni 
adeiladu/newid/ayyb fel mae angen.  Er enghraifft, yn y dyfodol bydd angen 
"chwynnu" Hollysydd i waredu â dyblau ac ati, ac mi fydd ychwanegu termau 
newydd o faesoedd eraill yn ffitio i mewn i hynny yn dda.

Gawn ni weld be mae ACCAC yn dweud - yn fy marn i, dylen nhw roi yn y parth 
cyhoeddus beth oedd yn cael ei gyllido gan arian cyhoeddus, ond 'mond fy marn 
i yw hwnna!

Kevin

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]