[gnome-cy] Opera 7 Y Porwr Gwe



*Opera 7 - ffeil iaith Cymraeg*

Mae ffeil iaith Cymraeg yn awr ar gael ar gyfer porwr gwe Opera 7. Er mwyn paratoi ar gyfer y pecyn iaith swyddogol gan Opera (www.opera.com) mae'r ffeil iaith yn cael ei gynnig i ddefnyddwyr er mwyn ei phrofi.

Mae Opera 6.05 cyflawn Cymraeg dal ar gael o safle Opera ac mae modd ei llwytho i lawr o'r fan
honno.

Er mwyn cael gafael ar ffeil iaith Opera 7 ewch i safle www.meddal.org.uk a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae yna doreth o ddeunydd cyfrifiadurol Cymraeg eraill i'w cael oddi yno gan gynnwys porwyr megis Netscape, y chwaraeydd cerddoriaeth Winamp, y prosesydd geiriau Abiword, ac ati.

Rhoslyn Prys
rhoslyn prys meddal org uk


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]