Atgofodi gnome-cy



Cyfarchion!

Fel bydd nifer ohonoch wedi sylwi mae'r canran o GNOME sydd wedi'i
gyfieithu i'r Gymraeg wedi bod yn lleihau cryn dipyn dros y fersiynau
diwethaf.

Mae rhai ohonom ar #gnome-cy (irc.freenode.net) wedi penderfynu fod hi'n
hen bryd i ni ail afael ar y cyfieithiadau, er mwyn ceisio cael
cyfieithiad Cymraeg GNOME yn ôl i 100% ar gyfer GNOME 3.

Erbyn hyn rwyf gyda'r gallu i gwthio newidiadau i brif ystorfa git
GNOME, ac wedi bod yn ceisio mynd trwy Bugzilla [0] yn gwthio'r cadachau
oedd yno cyn iddynt pydru gormod.

Byddai'n dda i cael rhagor o bobl i gyfrannu, ac i rhoi ffeiliau .po
unai ar Damned Lies [1] neu'n Bugzilla ac y gysylltu â'r rhestr yma gyda
dolen i'r ffeiliau ar Damned Lies neu Bugzilla. Y ffordd hyn bydd yn
bosib i eraill adolygu a gwthio'r gwaith.

Mae yna deunydd da ar sut i ddefnyddio Git ar gyfer cyfieithu GNOME ar
wici GNOME [2] ac yn y GNOME Journal [3].

Hwyl,
Iestyn

[0]  http://bugzilla.gnome.org/buglist.cgi?product=l10n&component=Welsh%
20[cy]
[1] http://l10n.gnome.org/teams/cy
[2] http://live.gnome.org/TranslationProject/GitHowTo 
[3] http://gnomejournal.org/article/71/git-for-gnome-translators 

Attachment: signature.asc
Description: Mae hwn yn rhan neges wedi'i lofnodi'n ddigidol



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]