[gnome-cy] Strategaeth TG Bwrdd yr Iaith



Helo (eto).

Wedi sylwi fod dogfen strategaeth TG Bwrdd yr Iaith Gymraeg newydd ei
chyhoeddi, ac ar yr un pryd mae'r Bwrdd yn galw am sylwadau arni.
Gwerth darllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd, ond ar fras-ddarllen
sylwais yn arbennig ar adran 3.2.1 ohoni [*], sy'n sôn am leoleiddio
rhaglenni meddalwedd rhydd. Mae sôn ynddo yn arbennig am CD Meddal
(sy'n defnyddio fersiwn o GNOME wedi ei rheoli am ansawdd,
er mwyn rhedeg OpenOffice a Mozilla Cymraeg) ac yn fwy cyffredinol
am brosiect Mercator i leoleiddio OpenOffice yn gyfangwbl i'r Gymraeg.

Targed y Bwrdd, yn ôl adran berthnasol y ddogfen, yw:

* Bydd y Bwrdd yn ystyried pob cais am gymorth i leoleiddio gan y
  gymuned meddalwedd rhydd.

Diddorol a gobeithiol, a dweud y lleiaf.

[*] http://snipurl.com/dogfenstrategaeth
'Dogfen Strategaeth' yw'r gwaith rwy'n cyfeirio ato fan hyn.

Rhys







_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]