[gnome-cy] Terminoleg HTML/Latex/XSLT



Helo,

Rwy' wedi bod yn gweithio rhyw ychydig yn ddiweddar ar gedit,
y golygydd testun sy'n rhan o benbwrdd GNOME. Un o'r datblygiadau
newydd ar gyfer GNOME 2.10 yw bod posib i gedit ddangos
tagiau HTML, Latex ac XSLT yn iaith y defnyddiwr, yn hytrach
nag yn Saesneg.

Fe geisiais i roi cynnig ar gyfieithu'r holl dagiau, ond rwy'n
ymwybodol iawn fod 'na bobl ar y rhestr hon â llawer mwy o
brofiad o'r dair iaith na fi, felly byddwn yn gwerthfawrogi
unrhyw sylwadau ar yr hyn gyfieithwyd.

Dyma dri tabl, wedi'u cynhyrchu'n uniongyrchol o'r ffeil
.po a'r ffeiliau xml sydd yn CVS GNOME ar hyn o bryd:

http://www.sucs.org/~rhys/gnome-cy/tagiau.php?tabl=html
http://www.sucs.org/~rhys/gnome-cy/tagiau.php?tabl=latex
http://www.sucs.org/~rhys/gnome-cy/tagiau.php?tabl=xslt

Os oes 'da chi amser i fwrw golwg arnyn nhw, fe fyddwn i'n
ddiolchgar iawn.

Hwyl
Rhys


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]