Re: [gnome-cy] Cyflwr cyfieithiad 2.10



Pob dymuniad gorau gyda Gnome 2.10. Mae'n wir werth
defnyddio Cysill, mae'n arbed embaras mawr :-(

Rhos

 --- Rhys Jones <rhys sucs org> wrote: 
> Helo,
> 
> Ar gais Dafydd Harries, dyma anfon pwt at y rhestr i
> roi gwybod i bobl
> beth yw cyflwr 2.10. Bydd 2.10 yn cael ei ryddhau ar
> Fawrth 9ed, ond
> bydd y rhai sy'n gyfrifol am yr amryw becynnau yn
> gorfod creu'r 
> fersiynau terfynol erbyn Mawrth 7ed. Felly llai na
> phythefnos sy'
> gyda ni - 10 diwrnod, dyweder, er mwyn bod yn saff.
> 
> Felly dyma'r prif benawdau:
> 
>  1. Mae'r Gymraeg eisoes wedi ei chynnal yn llawn yn
> 2.10 (yn nherminoleg
>     GNOME, h.y. > 80% o'r llinynnau hanfodol wedi eu
> cyfieithu)
>  2. Mae'n amheus 'da fi a fydd cyfieithiad 100% o
> 2.10 yn cael ei
>     gwblhau mewn pryd
>  3. Felly (yn fy marn i) dylem ganolbwyntio ar
> ddiweddaru a sgleinio'r
>     pecynnau sydd eisoes wedi eu cyfieithu ar gyfer
> GNOME 2.8 a.y.b.,
>     yn hytrach na chyfieithu pecynnau newydd
> 
> Mi wnaf ddelio â'r rhain yn eu tro.
> 
> -------------
> 
> 1. Cyflwr pethau ar hyn o bryd
> 
> Mae http://l10n-status.gnome.org/gnome-2.10/cy/ yn
> rhoi'r sefyllfa bresennol.
> Ar hyn o bryd, mae 81.4% o'r llinynnau hanfodol wedi
> eu cyfieithu.
> Mae pob llinyn yn developer-libs, a tua 79% o rai
> desktop wedi eu 
> gwneud. Rhaid i iaith fod â 80% o'i llinynnau wedi
> eu cyfieithu cyn
> y gellir ei galw'n llawn gynhaliedig (fully
> supported) o fewn GNOME.
> Felly mi ydyn ni yno'n barod. Ond...
> 
> -------------
> 
> 2. Beth sydd ar ôl
> 
> ...mae 'na nifer o becynnau wedi eu hanner-gorffen.
> Gallwch weld y
> rhestr yn
> http://l10n-status.gnome.org/gnome-2.10/cy/desktop/
> .
> Mae gyda ni 1157 llinyn niwlog, a 4950 llinyn heb eu
> cyfieithu -
> cyfanswm o 6107.
> 
> O ran nifer llinynnau, yr un enfawr yw Evolution,
> gyda dros 1700 o
> linynnau sydd angen eu gwneud. Mae
> gnome-applets-locations, sy'n darparu
> rhestr o enwau llefydd i raglennigion fel gweather,
> hefyd â dros
> 300 o enwau heb gyfieithiad.
> 
> -------------
> 
> 3. 'Strategaeth' ar gyfer y 10 diwrnod nesaf?
> 
> Fy marn bersonol i yw'r hyn sy'n dilyn. Croeso i chi
> anghytuno.
> 
> Yr hyn hoffwn i ei weld, erbyn tua Mawrth 5ed, yw
> medru cael pob
> pecyn oedd yn gyflawn ar gyfer 2.8 yn gyflawn ar
> gyfer 2.10 *ac
> hefyd* y cyfieithiadau wedi eu gwirio am gystrawen a
> sillafu.
> 
> Pam hynny? Wel, dau reswm.
> 
> a) Yn gyntaf, dydw i ddim yn meddwl y bydd posib i
> ni gwblhau'r
> 5000 o linynnau sydd eu hangen ar gyfer 2.10 yn
> gyfangwbl erbyn
> Mawrth 5ed. Yn un peth, fe fydda i'n eitha prysur
> o'r 28ed, gydag wythnos
> gyntaf swydd newydd, felly bydd dim amser 'da fi
> (ymddiheuriadau).
> Felly mae arna i ofn bydd rhaid hepgor evolution a
> gnome-applets-locations. Hefyd, dydw i ddim yn
> meddwl y dylen ni
> geisio cyfieithu dim byd newydd o'r rhestr desktop -
> yn syml, does
> dim amser.
> 
> Wedi i ni dynnu evolution, g-a-l a'r modylau sydd ar
> 0% o'r rhestr
> desktop, mae gyda ni (os yw fy symiau'n gywir):
> 
> * 14559 o linynnau wedi eu cyfieithu
> * 857 o linynnau niwlog
> * 1404 o linynnau heb eu cyfieithu
> 
> Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 2261 llinyn sydd angen
> sylw,
> sy'n eitha tipyn, ond eitha tipyn yn llai na 6107!
> 
> b) Yn ail, mae ansawdd cyfieithu yn holl bwysig
> nawr. Ers i 2.8
> ymddangos nôl ym mis Medi, mae Windows Cymraeg wedi
> cyrraedd. Mae
> 'na un gwall ynddo, mae'n debyg [ wir :) ], ac mae
> posib anghytuno
> gyda defnydd Cymen/Microsoft o rai termau (ar chwant
> personol),
> ond mae'r safon gyffredinol yn uchel iawn o fewn y
> cyfieithiad.
> Os nad ydyn ni'n medru cyrraedd y safon yna, bydd
> pobl yn meddwl
> ein bod ni "ddim cystal â Microsoft". A fedrwn ni
> ddim fforddio
> i hynny ddigwydd.
> 
> Cyn i mi roi unrhyw ffeil i mewn i CVS ar gyfer
> 2.10, rwy wedi
> gyrru Cysill drwyddo. Fel unrhyw system ieithyddol
> gyfrifiadurol,
> dyw Cysill ddim yn berffaith 100%, ond mae wedi
> llwyddo i waredu
> nifer o fân wallau. Fe hoffwn i'n fawr i bob ffeil
> yn CVS gael eu
> gwirio yn y fath fodd - gobeithio bydd amser.
> 
> -------------
> 
> 4. Felly beth nawr?
> 
> Wel - cyfieithu a gwirio cyfieithu. Mae tipyn i'w
> wneud, ond
> gobeithio y gwnawn ni gyrraedd rhyw nod ar gyfer
> 2.10.0. Gô tîm! :)
> 
> Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw sylwadau/adborth
> ar yr uchod.
> 
> Pob hwyl
> Rhys
> -- 
> http://cysyllta.blogspot.com/
> 
> _______________________________________________
> gnome-cy mailing list
> gnome-cy pengwyn linux org uk
>
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy
>  



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]