[gnome-cy] Cyflwr cyfieithiad 2.10



Helo,

Ar gais Dafydd Harries, dyma anfon pwt at y rhestr i roi gwybod i bobl
beth yw cyflwr 2.10. Bydd 2.10 yn cael ei ryddhau ar Fawrth 9ed, ond
bydd y rhai sy'n gyfrifol am yr amryw becynnau yn gorfod creu'r 
fersiynau terfynol erbyn Mawrth 7ed. Felly llai na phythefnos sy'
gyda ni - 10 diwrnod, dyweder, er mwyn bod yn saff.

Felly dyma'r prif benawdau:

 1. Mae'r Gymraeg eisoes wedi ei chynnal yn llawn yn 2.10 (yn nherminoleg
    GNOME, h.y. > 80% o'r llinynnau hanfodol wedi eu cyfieithu)
 2. Mae'n amheus 'da fi a fydd cyfieithiad 100% o 2.10 yn cael ei
    gwblhau mewn pryd
 3. Felly (yn fy marn i) dylem ganolbwyntio ar ddiweddaru a sgleinio'r
    pecynnau sydd eisoes wedi eu cyfieithu ar gyfer GNOME 2.8 a.y.b.,
    yn hytrach na chyfieithu pecynnau newydd

Mi wnaf ddelio â'r rhain yn eu tro.

-------------

1. Cyflwr pethau ar hyn o bryd

Mae http://l10n-status.gnome.org/gnome-2.10/cy/ yn rhoi'r sefyllfa bresennol.
Ar hyn o bryd, mae 81.4% o'r llinynnau hanfodol wedi eu cyfieithu.
Mae pob llinyn yn developer-libs, a tua 79% o rai desktop wedi eu 
gwneud. Rhaid i iaith fod â 80% o'i llinynnau wedi eu cyfieithu cyn
y gellir ei galw'n llawn gynhaliedig (fully supported) o fewn GNOME.
Felly mi ydyn ni yno'n barod. Ond...

-------------

2. Beth sydd ar ôl

...mae 'na nifer o becynnau wedi eu hanner-gorffen. Gallwch weld y
rhestr yn http://l10n-status.gnome.org/gnome-2.10/cy/desktop/ .
Mae gyda ni 1157 llinyn niwlog, a 4950 llinyn heb eu cyfieithu -
cyfanswm o 6107.

O ran nifer llinynnau, yr un enfawr yw Evolution, gyda dros 1700 o
linynnau sydd angen eu gwneud. Mae gnome-applets-locations, sy'n darparu
rhestr o enwau llefydd i raglennigion fel gweather, hefyd â dros
300 o enwau heb gyfieithiad.

-------------

3. 'Strategaeth' ar gyfer y 10 diwrnod nesaf?

Fy marn bersonol i yw'r hyn sy'n dilyn. Croeso i chi anghytuno.

Yr hyn hoffwn i ei weld, erbyn tua Mawrth 5ed, yw medru cael pob
pecyn oedd yn gyflawn ar gyfer 2.8 yn gyflawn ar gyfer 2.10 *ac
hefyd* y cyfieithiadau wedi eu gwirio am gystrawen a sillafu.

Pam hynny? Wel, dau reswm.

a) Yn gyntaf, dydw i ddim yn meddwl y bydd posib i ni gwblhau'r
5000 o linynnau sydd eu hangen ar gyfer 2.10 yn gyfangwbl erbyn
Mawrth 5ed. Yn un peth, fe fydda i'n eitha prysur o'r 28ed, gydag wythnos
gyntaf swydd newydd, felly bydd dim amser 'da fi (ymddiheuriadau).
Felly mae arna i ofn bydd rhaid hepgor evolution a
gnome-applets-locations. Hefyd, dydw i ddim yn meddwl y dylen ni
geisio cyfieithu dim byd newydd o'r rhestr desktop - yn syml, does
dim amser.

Wedi i ni dynnu evolution, g-a-l a'r modylau sydd ar 0% o'r rhestr
desktop, mae gyda ni (os yw fy symiau'n gywir):

* 14559 o linynnau wedi eu cyfieithu
* 857 o linynnau niwlog
* 1404 o linynnau heb eu cyfieithu

Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 2261 llinyn sydd angen sylw,
sy'n eitha tipyn, ond eitha tipyn yn llai na 6107!

b) Yn ail, mae ansawdd cyfieithu yn holl bwysig nawr. Ers i 2.8
ymddangos nôl ym mis Medi, mae Windows Cymraeg wedi cyrraedd. Mae
'na un gwall ynddo, mae'n debyg [ wir :) ], ac mae posib anghytuno
gyda defnydd Cymen/Microsoft o rai termau (ar chwant personol),
ond mae'r safon gyffredinol yn uchel iawn o fewn y cyfieithiad.
Os nad ydyn ni'n medru cyrraedd y safon yna, bydd pobl yn meddwl
ein bod ni "ddim cystal â Microsoft". A fedrwn ni ddim fforddio
i hynny ddigwydd.

Cyn i mi roi unrhyw ffeil i mewn i CVS ar gyfer 2.10, rwy wedi
gyrru Cysill drwyddo. Fel unrhyw system ieithyddol gyfrifiadurol,
dyw Cysill ddim yn berffaith 100%, ond mae wedi llwyddo i waredu
nifer o fân wallau. Fe hoffwn i'n fawr i bob ffeil yn CVS gael eu
gwirio yn y fath fodd - gobeithio bydd amser.

-------------

4. Felly beth nawr?

Wel - cyfieithu a gwirio cyfieithu. Mae tipyn i'w wneud, ond
gobeithio y gwnawn ni gyrraedd rhyw nod ar gyfer 2.10.0. Gô tîm! :)

Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw sylwadau/adborth ar yr uchod.

Pob hwyl
Rhys
-- 
http://cysyllta.blogspot.com/

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]