[gnome-cy] cyflwr pethau



Heia pawb!

Dyma sut mae pethau ar hyn o bryd:

 - Mae Cymraeg ar y cyfan yn 95.22% yn gyflawn[0].
 - Mae developer-libs yn 98.76% yn gyflawn a desktop yn 94.35% yn
   gyflawn[1].
 - O fewn developer-libs, dim ond gtk+-properties sydd angen diweddaru
   (26 fuzzy, 18 heb gyfieithu)[2].
 - O fewn desktop, mae 372 llinyn fuzzy, a 448 heb eu cyfieithu[3].

Y prif beth, wrth gwrs, yw'r grŵp desktop. O fewn desktop: dyma'r modylau sydd
angen eu diweddaru:

  gnome-applets		(37 fuzzy, 41 heb gyfieithu)
  gnome-control-center	(61 fuzzy, 52 heb gyfieithu)
  gnome-games		(55 fuzzy, 61 heb gyfieithu)
  gnome-media		(17 fuzzy, 35 heb gyfieithu)
  gnome-panel		(32 fuzzy, 19 heb gyfieithu)
  gnome-utils		(31 fuzzy, 26 heb gyfieithu)
  gnopernicus		(50 fuzzy, 12 heb gyfieithu)
  gok			(38 fuzzy, 68 heb gyfieithu)
  gpdf			(11 fuzzy, 35 heb gyfieithu)
  gtksourceview		(17 fuzzy, 30 heb gyfieithu)

Yn ychwanegol, does dim cyfieithiad o gwbl gan gnome-keyring eto (41 neges).

Caiff GNOME 2.6 ei rhyddhau dydd Llun nesaf, yr 22ain o Fawrth[4].

Os ydych chi am i GNOME 2.6 fod a 100% o'r llinynau hanfodol, nawr yw'r
amser i wirfoddoli! Mae'r broses yn ddigon hawdd: cael fersiwn
diweddaraf y ffeil priodol o'r GTP[3], neu ei ddiweddaru at CVS,
diweddaru'r cyfeithiad, danfon clwt neu'r ffeil cyfan ata i a diweddaru
tudalennau y wici[5][6]. (Dwi'n bwriadu ymuno'r ddau dudalen yma
rhywbryd.)

Mae scrollkeeper wedi ei gyfieithu yn y TP, ond mae xfree86_xkb_xml (362
neges) a shared-mime-info (354 neges) o hyd heb eu cyfieithu[7]. Dylid
gallu gwneud y rhan fwyaf o shared-mime-info yn awtomatig gan ddefnyddio
msgmerge.

Reit, pwy sy'n gwirfoddoli gwneud beth? :)

[0] http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/essential.html
[1] http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/index.html
[2] http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/developer-libs/index.html
[3] http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/cy/desktop/index.html
[4] http://www.gnome.org/start/2.5/
[5] http://cymruarlinux.org.uk/wici/index.cgi?AngenRhoiYnCVS
[6] http://cymruarlinux.org.uk/wici/index.cgi?ModylauGnomeCY
[7] http://www2.iro.umontreal.ca/translation/registry.cgi?team=cy

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]